Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cydweithio hefo trafnidiaeth gyhoeddus Arriva er mwyn codi ymwybyddiaeth am droseddau casineb a sut i’w riportio nhw.
Gan weithio mewn partneriaeth hefo’r heddlu, mae bysiau Arriva bellach yn arddangos posteri parhaol arbennig sy’n rhybuddio troseddwyr na fyddan nhw’n goddef troseddau casineb ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a bydd lluniau CCC yn cael eu rhannu hefo’r heddlu.
Mae trosedd casineb yn cynnwys cam-drin llafar, ymosodiad neu niwed troseddol sy’n cael ei ysgogi gan ragfarn person oherwydd eu hanabledd, hil, crefydd neu cenedligrwydd.
Mae’r ymgyrch addysg yn gweld posteri’r heddlu yn cael eu harddangos ar lawr isaf pob bws Arriva yng ngogledd Cymru. Bydd yr ymgyrch hefyd yn gweld swyddogion yn patrolio’r rhwydwaith trwy fynd ar y bysiau ar draws y rhanbarth – gan helpu gwella diogelwch cwsmeriaid a staff a tawelu meddwl pobl fregus.
Dywedodd PC Fishlock o Uned Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant yr Heddlu: “Ers nifer o flynyddoedd mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gweithio’n agos hefo Arriva a ‘da ni unwaith eto’n hynod ddiolchgar iddyn nhw am eu help hefo’n hymgyrch diweddaraf ni.
“Yn anffodus, ‘da ni’n gwybod bod rhai defnyddwyr gwasanaethau bysiau yn gweld ymddygiad annerbyniol a gwrthgymdeithasol sy’n cael ei ystyried yn erchyll ac yn fygythiol. Mae hyn yn aml yn cynnwys defnyddwyr gwasanaeth anabl neu oedrannus sy’n dioddef sarhad ar lafar.
“Drwy ddangos y posteri hyn o hyd, ‘da ni am anfon neges glir i’r gymuned na fydd yr heddlu nac Arriva yn goddef troseddau casineb gwrthgymdeithasol o unrhyw fath, a bydd unrhyw droseddwyr yn cael eu dal yn atebol ac yn gadarn.
“Mae llawer o aelodau bregus ac oedrannus y gymuned yn dibynnu’n fawr ar y gwasanaeth bysiau ac mae’n annerbyniol eu bod nhw’n dioddef ymddygiad brawychus.
“Mae ein neges ni’n glir – ni fydd sarhau, ar unrhyw ffurf, yn cael ei oddef ac mae dioddefwyr yn cael eu hannog i riportio unrhyw beth sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n anghyffyrddus. Gadewch i ni gyd sefyll hefo’n gilydd yn erbyn casineb.”
Dywedodd Anthony Holyfield, Rheolwr Ymgyrchoedd Gogledd Cymru ar ran Bysiau Arriva: “Mae’n hanfodol bod pobl yn teimlo’n saff wrth deithio ar ein bysiau ni, a ‘da ni’n anfon neges glir at droseddwyr na fydd troseddau casineb yn cael eu goddef.
“Dydy Arriva ddim yn goddef sarhau ar y rhwydwaith, a ‘da ni’n gweithio’n galed er mwyn gwneud yn siŵr fod ein cwsmeriaid a’n staff ni’n teimlo’n saff ac yn cael yr hyder i riportio unrhyw ddigwyddiad gan wybod y bydd yn cael ei gymryd o ddifrif ac yn cael ei ymchwilio.”
Mae’r ymgyrch yn cael cefnogaeth lawn gan y Prif Gwnstabl, Amanda Blakeman a bwysleisiodd pwysigrwydd riportio problemau i’r heddlu.
Dywedodd: “Mae gan bawb yr hawl defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus heb ofni sarhad oherwydd eu hanabledd, hunaniaeth rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol a’u crefydd nhw neu unrhyw nodwedd arall.
“Unwaith eto, ‘da ni’n ddiolchgar iawn i Arriva am gefnogi ein hymgyrch ni ac eisiau tawelu meddwl eu cwsmeriaid y bydd yr heddlu yn barod i ymateb ac y bydd ganddyn nhw fynediad i luniau camerâu cylch cyfyng a fydd yn rhoi tystiolaeth hanfodol i ni adnabod pobl o dan amheuaeth a gwneud arestiadau.”
Gall defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol ddilyn yr hashnod #MaeCasinebYnBrifoCymru