Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn oedd yn “ gorfodi ac yn rheoli” wedi ei garcharu heddiw am ymosodiad ffyrnig ar ei gymar.
Mi wnaeth Sureshkumar Thuruirajah, 52, o Kingsmills Road, Wrecsam, drywanu ei gymar sawl gwaith efo siswrn yn eu cartref yn Wrecsam ar dydd Mawrth, 12 Ebrill llynedd.
Mi gafodd hi anafiadau i’w phen, ysgwyddau, abdomen a’i llaw.
Cafodd Thuruirajah ei arestio y diwrnod hwnnw, ac yna’i gyhuddo o glwyfo efo’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw, mi gafodd ddedfryd estynedig o wyth mlynedd yn y carchar, wedi iddo gyfaddef y drosedd.
Mi ddigwyddodd hyn wedi i Thuruirajah fod yn flin, ar ôl gweld ei gymar yn siarad ar y ffôn yn gynharach y diwrnod hwnnw.
Pan gyrhaeddodd adref o’i waith, cydiodd mewn siswrn a dechreuodd dorri gwallt ei gymar, cyn ei ddefnyddio i’w thrywanu sawl gwaith.
Mi lwyddodd hi ymofyn help ac mi ffoniodd hi’r heddlu.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl, Daniel Jones: “Mae Thuruirajah yn ddyn sy’n bygwth, yn rheoli ac sy’n genfigennus, ac mae dedfryd heddiw yn adlewyrchu dwyster y drosedd.
“’Dwi’n cymeradwyo’r dioddefwr am ei dewrder drwy gydol yr ymchwiliad.
“’Dwi’n gobeithio bod hyn yn anfon neges glir nad ydy Heddlu Gogledd Cymru yn goddef trais domestig o gwbl, ac mi wnawn ni barhau i erlid unrhyw un sy’n cyflawni trais yn erbyn merched a genethod.”