Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 28 oed oedd wedi tagu a stelcio ei gyn-gymar yn fwriadol wedi ei garcharu.
Mi wnaeth Dylan Parry Jones, o Marine Parade, Y Bermo, fygwth ei “brawychu” hi, ac mi safodd y tu allan i gartref ei ffrind a dweud wrtho y byddai’n lladd ei hun os na fuasai hi’n mynd yn ôl ato fo.
Mi fyddai hefyd yn ei ffonio’n ddi-baid a gwneud bygythiadau treisgar tuag ati hi a’i theulu.
Mi ymddangosodd Jones yn Llys Ynadon Llandudno am ddedfryd ar ddydd Gwener, 26 Gorffennaf. Roedd Llys y Goron Caernarfon yn cael ei atgyweirio ar y pryd.
Cafodd ei garcharu am gyfanswm o 22 mis a chafodd orchymyn atal am dair blynedd yn berthnasol i'r dioddefwr.
Yn dilyn digwyddiad ar 3 Mawrth, mi ffoniodd ffrind y dioddefwr yr heddlu yn riportio Jones am ei fod wedi ymosod yn dreisgar ar ei gyn-gymar, gan ei chydio wrth ei gwddw, ei thynnu dros y soffa a chicio ei choesau, cyn difrodi ei heiddo.
Cysylltodd hi hefo'r heddlu ei hun ychydig wythnosau'n ddiweddarach, gan ddatgelu ymddygiad ymosodol a bygythiol Jones.
Wrth iddi eistedd hefo swyddogion er mwyn riportio'r troseddau, galwodd Jones y dioddefwr dro ar ôl tro, gan ei sarhau ar lafar a dweud wrthi y bydd yn ei "dychryn" yn dilyn ei chyswllt hefo'r heddlu.
Ddyddiau'n ddiweddarach, gwnaeth y dioddefwr adroddiad pellach fod Jones yn sefyll y tu allan i gartref ei ffrind tra roedd hi yno.
Mi ymatebodd yr heddlu a’i arestio fo.
Tra yn y ddalfa, mi wnaeth o ddifrodi'r gell yn fwriadol ac ymosod ar dri swyddog heddlu.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, PC Stephen Jones: “’Roedd ymddygiad ffyrnig, ymosodol a bygythiol Jones wedi cael effaith ddinistriol ar ei ddioddefwr.
“’Dwi’n gobeithio bod dedfryd heddiw yn caniatáu iddi symud ymlaen, gan wybod nad ydy o’n fygythiad i’w diogelwch rhagor.
“Mae’r dioddefwr wedi bod yn ddewr iawn drwy riportio ymddygiad Jones i ni, ac am helpu’r ymchwiliad o dan amgylchiadau heriol iawn.
“Os ‘da chi neu os ‘da chi wedi bod yn ddioddefwr stelcian neu gam-drin domestig, riportiwch i ni ar-lein neu drwy ffonio 101. Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser."