Stamp amser presennol: 20/08/2026 07:17:10
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

North Wales Police crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi
  1. ...
  2. Newyddion

Pennaeth ysgol oedd wedi camddefnyddio swydd gyfrifol a thargedu plant wedi’i garcharu am 17 o flynyddoedd

Cynnwys y prif erthygl

Newyddion
Cyhoeddwyd: 12:12 01/07/2024

 

Mae cyn-bennaeth a ymosododd yn rhywiol o blant, wedi ei garcharu am 17 o flynyddoedd.

Ymddangosodd Neil Frederick Foden, o Gwynant, Hen Golwyn, a oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars ar adeg y troseddau, yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw, dydd Llun, 1 Gorffennaf.

Derbyniodd y dyn 66 oed euogfarn am 19 cyhuddiad yn ymwneud â phedwar dioddefwr, gan gynnwys 12 trosedd o weithredoedd rhywiol efo plentyn, dau gyhuddiad o weithredoedd rhywiol efo plentyn tra mewn swydd gyfrifol, achosi neu annog gweithredoedd rhywiol efo plentyn, ceisio trefnu cyflawni trosedd rhywiol efo plentyn, cyfathrebu rhywiol efo plentyn, meddu ffotograffau anweddus o blentyn, ac ymosodiad rhywiol ar blentyn.

Cychwynnodd ymchwiliad ynglŷn â Foden ar 6 Medi 2023, yn dilyn hysbysiad ei fod mewn perthynas efo plentyn.

Dangosodd y plentyn, a adwaenir fel Plentyn A, lun o Foden ar ei ffôn i oedolyn, a lluniau sgrîn o’r sgyrsiau rhyngddyn nhw, oedd wedi digwydd dros gyfnod o tua chwe mis.

Mi wnaeth o annog Plentyn A i’w gofleidio a’i gusanu, yn dweud rhaid iddi “fynd â hyn i’r bedd a pheidio dweud wrth neb.”

Dechreuodd y ddau anfon negeseuon ar WhatsApp at ei gilydd, efo Foden yn dweud wrth y ferch  ddileu ei negeseuon yn ddyddiol.

Mi ddaeth y negeseuon a’r cyswllt yn rhywiol yn fuan, efo Foden yn ymosod yn rhywiol arni hi sawl gwaith, yn ddi-baid hyd yn oed pan wnaeth hi ofyn iddo beidio.

Aeth yr heddlu i’w weithle y prynhawn hwnnw a’i arestio.

Mi gafodd o ei gyhuddo ddau ddiwrnod wedyn, ar 8 Medi, o dan amheuaeth o droseddau rhywiol, ac mi gafodd ei remandio i’r ddalfa.

Ar ôl iddo gael ei arestio, yn ddewr, daeth tri dioddefwr arall ymlaen, efo rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau oedd wedi digwydd rhwng 2019 a 2023.

Yn ystod pob digwyddiad, fe wnaeth anrheithio dioddefwyr bregus drwy eu cyffwrdd a’u cofleidio dro ar ôl tro, yn aml yn eu targedu yn ystod cyfarfodydd un-i-un.

Dechreuodd plentyn arall, a adwaenir fel Plentyn E, berthynas efo Neil Foden, ac ‘roedden nhw’n cyfarfod yn ddyddiol ac yn anfon negeseuon dros WhatsApp. Dywedodd o wrth Plentyn E ei fod yn ei charu hi, a dylen nhw gadw’r berthynas yn gyfrinach. Mi ymosododd yn rhywiol arni sawl gwaith yn ei gar, ac hefyd mewn gwestai pan aeth hi’n gwmni iddo ar deithiau dros nos.

Ar adeg arall, ‘roedd Foden ar ei ben ei hun efo Plentyn B, pan gydiodd hi wrth ei gwddw a rhoi ei ddwylo ar y tu fewn i’w chlun ger ei horganau cenhedlu.

Unwaith eto, ‘roedd Plentyn C ar ei phen ei hun efo Foden pan roddodd ei law ar ei choes, a phinsio’i chlun. Mi gofleidiodd hi pan oedd hi’n drist ond wedyn rhoddodd ei law o dan ei dillad.

Heddiw, cafodd Foden ei ddedfrydu i 17 mlynedd yn y carchar a rhaid iddo dreulio dau draean o'r ddedfryd cyn iddo gael ei ystyried i'w ryddhau.

Gosododd y barnwr orchymyn atal niwed rhywiol am oes a gorchymyn atal deng mlynedd yn ei wahardd rhag cysylltu â'i ddioddefwyr.

Mae hefyd wedi'i wahardd rhag dysgu am gyfnod amhenodol.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Gareth Evans: “Mae Heddlu Gogledd Cymru yn croesawu dedfryd heddiw, sy’n adlewyrchu natur arswydus troseddau Neil Foden.

“’Da ni’n rhannu sioc a ffieidd-dod ein cymunedau tuag at ei droseddau.

“Fel pennaeth ysgol, ei swydd oedd diogelu pobl ifanc, edrych ar eu holau a’u datblygu nhw er mwyn cael dyfodol gwell. Yn lle hynny, mi wnaeth gamddefnyddio ei swydd  er mwyn ei foddhad rhywiol ei hun.

“Galla i ddim gor-ddweud yr effaith mae hyn wedi’i gael ar ein cymunedau ni, yn enwedig ar bobl ifanc yr ardal.

“’Dwi eisiau diolch i’r dioddefwyr ddaeth atom ni ynglŷn â’r achos yma. Mae eu dewrder a’u cryfder nhw o fynd drwy brofiad anodd yr achos llys yn haeddu edmygedd pawb.

“’Dwi’n sicr bod eu gweithrediadau wedi achub cenedlaethau’r dyfodol rhag bod yn ddioddefwyr troseddau wrth law Neil Foden.

“’Dwi’n annog unrhyw un sydd wedi dioddef trais rhywiol yn y gorffennol i ddod atom ni. ‘Da ni yma i wrando. ‘Da ni yma i’ch helpu chi. Mi wnawn ni ein gorau drosoch chi.”

Dywedodd yr Uwch Swyddog Archwilio yn yr achos, y Ditectif Brif Arolygydd Sophie Chance: “Mi gyflawnodd Neil Foden ymgyrch benodol ac anrheithgar yn erbyn plant bregus.

“Mi fuaswn i’n hoffi cydnabod gwaith y rhai yn fy nhîm archwilio i, a’n partneriaid ni yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, sydd wedi gweithio’n ddi-baid er mwyn bwrw ymlaen hefo’r achos yma a sicrhau ei fod yn dod o flaen ei well.

“Mi fuaswn i hefyd yn hoffi diolch i’n cydweithwyr ni yn y Ganolfan Ailgyfeirio Ymosodiad Rhywiol (SARC), oedd yn allweddol yn helpu’r dioddefwyr, a hebddyn nhw, ni fuasai troseddu Neil Foden wedi dod i’r amlwg.”

Os ‘da chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, mae help ar gael i chi. Ni ddylai neb ddioddef mewn tawelwch. Mi wnawn ni gymryd eich adroddiad chi o ddifrif ac ymchwilio’n drwyadl.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Gogledd Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Gwasanaeth Sgwrsio
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026​. Cedwir pob hawl.