Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri swyddog ac un SCCH wedi cael eu cymeradwyo am eu gwasanaeth diweddar yng nghymunedau Gogledd Gwynedd.
Mi dderbyniodd y Rhingyll Ben Pugh, y Cwnstabl Stephanie Owen a’r Cwnstabl Noah Cameron gymeradwyaeth gan yr Uwcharolygydd am achub bywyd yn ystod digwyddiad yn ymwneud ag unigolyn bregus ym mis Chwefror eleni.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Llinos Davies: “Gwnaeth gweithrediadau dewr a chyfathrebu’r swyddogion yn ystod y digwyddiad achub bywyd dyn.
“Maen nhw’n glod i’r heddlu ac yn haeddu cymeradwyaeth am eu gweithrediadau.”
Mi dderbyniodd SCCH Julie Broadhead gymeradwyaeth gan yr Uwcharolygydd am ei dulliau wrth ddatrys problemau er mwyn lleihau graffiti a difrod troseddol ym Mangor.
Mi weithiodd SCCH Broadhead efo asiantaethau partner ac aelodau’r gymuned yn yr ardal leol, oedd wedi rhoi gwybod i ni fod y mater yn bwysig iddyn nhw.
Mi gydlynodd hi brosiectau celf cymunedol a wnaeth ymgysylltu efo aelodau ieuengach y gymuned, ac, o ganlyniad, mi leihaodd y graffiti ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Llinos Davies: “Mae ymroddiad ac ymdrechion SCCH Broadhead wedi effeithio’n gadarnhaol ar ymddiriedaeth gymunedol, ar ben y lleihad yn ymddygiad gwrthgymdeithasol a graffiti yn ardal Bangor.
“Mae’r prosiect wedi bod yn enghraifft ardderchog o pa mor bwerus allai datrysiad gymunedol fod er mwyn atal problemau pellach. ‘Da ni’n edrych ymlaen at barhau ein gwaith efo partneriaid ar faterion sy’n bwysig i drigolion.”