Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi ei garcharu am dreisio a cham-drin plentyn yn rhywiol.
Mi ymddangosodd Wayne Greenshields, 39 oed, o Blas Isaf, Rhosymedre yn Llys y Goron, Caernarfon ar gyfer y ddedfryd heddiw, dydd Mercher 18 Rhagfyr, wedi iddo gael euogfarn am naw trosedd.
Mi ‘roedd rhain yn cynnwys tri trosedd o weithgaredd rhywiol, dau ymosodiad rhywiol, ysgogi gweithgaredd rhywiol, treisio a dau drosedd o geisio treisio.
Mi gafodd ddedfryd o garchar am 15 mlynedd, ac mi dderbyniodd orchymyn atal penagored er mwyn gwarchod y dioddefwr, a oedd wedi cael ei cham-drin gan Greenshields dros gyfnod o ddwy flynedd.
Mi gafodd ei arestio ym mis Gorffennaf 2022, pan wnaeth y dioddefwr ddatgelu yn ddewr i’w rhiant ynglŷn â beth oedd wedi digwydd.
Mi wnaeth o wadu’r troseddau ond mi gafodd ei ganfod yn euog o naw trosedd gan rheithgor yn Llys y Goron, yr Wyddgrug y mis diwethaf.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Jane Burns: “Mae ymddygiad dychrynllyd Greenshields wedi gadael y dioddefwr a’i theulu efo trawma seicolegol, fydd yn aros efo nhw am byth.
“Mi wnaeth o feithrin perthynas amhriodol efo’r dioddefwr a’i gorfodi i ddioddef cam-drin rhywiol ofnadwy dros gyfnod hir o amser, a’i gadael yn ei ofni a’r hyn allai wneud.
“’Dwi’n ei chymeradwyo am ei dewrder drwy riportio troseddau mor ddifrifol, ac am ei dewrder parhaus drwy gydol yr ymchwiliad.
“Er na fydd dedfryd heddiw yn diddymu’r trawma a’r gofid achoswyd, ‘dwi’n gobeithio wnaiff roi rhywfaint o gysur, drwy wybod na allai o achosi niwed i unrhyw un arall.
“’Dwi’n annog unrhyw un sydd wedi cael profiad o’r fath ymddygiad i gysylltu â ni a pheidio â dioddef mewn distawrwydd. Mi wnaiff yr heddlu wrando a rhoi cymorth i chi.”