Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cwpwl oedrannus wedi diolch i’r gwasanaethau brys am eu hachub, ar ôl i’w car dorri lawr ar Noswyl y Nadolig.
Mi roedd Mr a Mrs Wharfe, y ddau ohonyn nhw yn eu 80au, yn teithio ar hyd yr A470 o Landudno tuag at yr A55 pan ddechreuodd eu car ollwng mwg, yn eu hatal rhag gweld y ffordd o’u blaenau.
Mi welodd rhywun y mwg wrth fynd heibio a ffonio 999.
Mewn llai na phum munud, roedd yr hen nain a thaid yn falch o weld yr heddlu’n cyrraedd.
Mae’r cwpwl wedi bod mewn cysylltiad ers hynny, er mwyn diolch i’r rhai a helpodd nhw. Dywedodd Mr Wharfe: “’Mi roedd llawer o fwg yn dod o’r car a doedden ni’n gweld dim, mi roedden ni’n meddwl bod y car ar dân.
“Mi roedd yr heddlu, y gwasanaeth tân, y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth adfer i gyd mor garedig i ni.”
Mi roedd y ffordd ar gau wrth i’r car gael ei gludo i ffwrdd gan y gwasanaeth adfer.
Dywedodd Mrs Wharfe: “Dw i’n rhannol ddall, ac mae fy ngŵr yn fyddar, felly mi roedden ni’n teimlo’n ofnus iawn ar ochr y ffordd brysur. Mi wnaeth y bobl ddaeth i’n helpu wneud i ni deimlo’n ddiogel a thawelu ein meddyliau.
“Mi roedden nhw’n amyneddgar iawn efo ni, er mai Noswyl y Nadolig oedd hi.”
Mi aeth yr heddlu â’r hen nain a thaid adref, ac mi wnaethon nhw fwynhau’r profiad o fod mewn car heddlu am y tro cyntaf!
Dywedodd Mr Wharfe: “Mi ddywedodd yr heddlu wrthon ni beidio â phoeni, ac na fuasen nhw’n ein gadael ni tan ein bod adre’n ddiogel.
“’Dw i mor falch nad oedd unrhyw un wedi’u hanafu, efo gymaint o bobl yn trio mynd adref ar gyfer y Nadolig.
“Mi gawsom ni ofal a sylw rhagorol gan y gweithwyr ambiwlans, wnaeth wneud yn siŵr ein bod yn iawn, ac mi wnaeth y gwasanaeth tân edrych dros y car cyn iddo fynd efo’r gwasanaeth adfer.”
Wedi cael ysgytiad ar ôl y profiad, dywedodd Mrs Wharfe: “’Da ni eisiau diolch i bawb ddaeth i’n helpu ni pan wnaethon ni dorri lawr.
“’Da ni’n teimlo mor falch a diolchgar bod gwasanaethau brys Gogledd Cymru mor ofalgar, trugarog a gwasanaethgar pan yn helpu aelodau’r cyhoedd. Mi dderbyniom ni wasanaeth gwerth chweil.”
Mi aeth y cwpwl adref efo swyddogion yr heddlu, wedi eu hysgwyd ond wedi’u cysuro o ganlyniad i’r gwasanaeth a dderbynion nhw. Mae’r cwpwl wedi bod yn briod ers dros 60 mlynedd, ac mi ddwedon nhw y bydden nhw’n dathlu Nos Galan drwy yfed llwnc destun i weithwyr y gwasanaethau brys.