Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teyrnged wedi ei dalu i’r bobl a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ym Miwmaris, Ynys Môn ar brynhawn dydd Mercher.
Roedd Stephen and Katherine Burch yn 65 oed ac yn byw yn Alcester, Swydd Warwick.
Mae’r deyrnged isod iddynt gan Esgobaeth Coventry:
“Mae hyn yn sioc fawr i’r esgobaeth gan bod llawer yn adnabod Steve, a wnaeth ymddeol ddiwedd y llynedd ar ôl gwasanaethu gyda ni mewn sawl rôl am dros 35 mlynedd, yn fwyaf diweddar fel Ficer St James, Fletchamstead am 19 mlynedd.
“Roedd Steve yn aelod poblogaidd o’r esgobaeth ac yn adnabyddus am ei hiwmor a’i ffydd a roedd nifer yn nabod Kathy hefyd am ei gwaith gyda CPAS a’r weinidogaeth weddi. Fel cwpl roeddent hefyd yn weithgar iawn ar ôl ymddeol, yn rhedeg cwrs alpha gan arwain at wasanaethau bedydd a derbyn.
“Cydymdeimlwn â theulu Steve a Kathy sef David, Jonathan a Sarah wrth iddynt dod i delerau â’r golled erchyll ac annisgwyl hwn.”
Arglwydd, fel y gwnaeth dilynwyr Iesu ofyn iddo i helpu eu ffrindiau, felly y gofynnwn ni heddiw i helpu ein ffrindiau, sy’n dioddef yn nhywyllwch galar. Boed iddynt ganfod eiliadau o hedd ynghanol eu poen, munudau o lawenydd yn eu hatgofion, a munudau o obaith yn dy gariad.
Amen.
Mae’r ymchwiliad i ganfod beth achosodd y gwrthdrawiad ddydd Mercher ar Stryd Alma ym Miwmares yn parhau.
Yn fuan wedi 2:45pm ar ddydd Mercher, 28 Awst aeth swyddogion at wrthdrawiad traffig rhwng Audi A8 llwyd a dau gerddwr ar Stryd Alma, Biwmaris.
Ymatebodd y cyhoedd a’r gwasanaethau brys, ond er gwaethaf ymdrechion pawb bu farw Mr and Mrs Burch a gyrrwr yr Audi a oedd yn 81 oed yn y fan a’r lle.
Dywedodd Uwch Swyddog yr Ymchwiliad, Rhingyll Emlyn Hughes o’r Uned Gwrthdrawiadau Difrifol: “Estynnwn ein cydymdeimlad at deulu a ffrindiau pawb a oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad yn ystod y cyfnod anodd hwn.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cysylltu â ni hyd yn hyn. Mae ein tîm o swyddogion ac ymchwilwyr yn ceisio canfod yr hyn a wnaeth ddigwydd ac rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth a dderbyniwyd gan dystion a’r rhai sydd wedi rhoi tystiolaeth i ni ar CCC a chamera cerbyd.
“Hoffwn ddiolch hefyd i’r gymuned ym Miwmaris am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae effaith y gwrthdrawiad yn cael ei deimlo ar draws Ynys Môn a hoffwn dawelu meddyliau pawb ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn i ganfod achos y digwyddiad hwn.”
Dylai unrhyw un â gwybodaeth a alla fod o gymorth gysylltu â’r Uned Gwrthdrawiadau Difrifol drwy y wefan neu drwy alw 101, gan ddyfynnu cyfeirnod 24000745374.