Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn, 36 oed, a ymosododd ar ei gymar, wedi ei garcharu.
Ymddangosodd Michael McClarence, o Portugal Stret, Bolton, yn Llys y Goron, Caernarfon heddiw, dydd Mercher 20 Mawrth, ar ôl euogfarn am ymosod.
Yn ystod achos yn Llys y Goron, Caernarfon, a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023, fe’i dyfarnwyd yn ddi-euog gan reithgor, am gyhuddiadau yn cynnwys clwyfo gyda bwriad, difrod troseddol a stelcian.
Cafod ei garcharu am 4 blynedd, a derbyniodd orchymyn atal am oes.
Ym mis Mawrth 2022, dywedwyd fod McClarence wedi bod yn ffraeo efo’i gymar, yn ei chartref yn Llanfihangel yn Nhywyn.
Gadawodd hi’r tŷ, ond aeth McClarence ar ei hôl. Fe wnaeth ei thaflu yn erbyn y drws, a’i dal wrth ei gwddw hyd nes oedd hi'n medru anadlu. Parhaodd i ymosod arni, cyn ei thaflu tuag at sinc, yn achosi iddi golli ymwybyddiaeth. Fe’i cariodd hi yn ôl i’r cartref, lle arhosodd hi am dri diwrnod, cyn mynd i’r ysbyty. Cafodd hi ei throsglwyddo i Ysbyty Trawma Stoke yn sgìl ei hanafiadau.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Meinir Jones: “Ein blaenoriaeth yw i ddelio efo unrhyw adroddiadau o drais tuag at ferched, ac fe barhawn i erlyn y rhai sy’n ei achosi.
“Dwi’n croesawu rheithfarn y llys heddiw, sy’n dilyn ymchwiliad hir ac anodd i ddigwyddiad sydd wedi achosi anafiadau wnaiff effeithio ar fywyd y dioddefwr.
“Mae ei dewrder drwy gydol yr ymchwiliad i’w gymeradwyo.
“Fuaswn i’n argymell yn gryf i unrhyw un sy’n dioddef o gam drin neu drais domestig ein hysbysu ohono, neu gysylltu efo asiantaeth cefnogol. Fe wrandawn arnoch, ac wnawn ymchwilio yn drylwyr.”
Ymgyrch Unite ydy ymateb Heddlu Gogledd Cymru i ddelio efo trais yn erbyn merched a genethod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.