Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gang o Wrecsam a fu'n targedu teuluoedd lleol am emwaith aur wedi cael eu carcharu am fwy na 14 mlynedd.
Dros gyfnod o dair mis, o fis Medi'r llynedd torrodd gang i mewn i gartrefi chwe teulu Asiaidd, gan ddinistrio eu llofftydd yn chwilio am aur.
Mi wnaethon nhw geisio cuddio eu drwgweithredoedd drwy ddefnyddio deunyddiau glanhau yn rhai o'r cartrefi.
Yn dilyn pob byrgleriaeth, aeth y gang at ddeliwr bwlion yn Birmingham i gyfnewid yr asedau am arian.
Drwy Ymgyrch Guard, ymchwiliad wedi ei arwain gan Heddlu Gogledd Cymru gyda chefnogaeth heddluoedd eraill gwelwyd arestio pump o aelodau'r gang yn Wrecsam ym mis Tachwedd yn dilyn eu siwrne olaf yn gweld y deliwr bwlion yn Birmingham.
Canfuwyd yr aelod olaf o'r gang yn Southport y mis canlynol.
Ymddangosodd y pum dyn o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug i'w dedfrydu heddiw (dydd Mawrth, 30 Mawrth) sef:
Kew Delaney, 34, o Goedpoeth a gafodd ei gyhuddo o gynllwyn i fyrgleriaeth ac a gafodd ddedfryd o dair blynedd a phedwar mis o garchar.
Addie Piggot, 29, o Goedpoeth a gafodd ei gyhuddo o gynllwyn i fyrgleriaeth ac a gafodd ddedfryd o bedair blynedd ac wyth mis.
Todd Wickens, 35 o Wrecsam a gafodd ei gyhuddo o gynllwyn i fyrgleriaeth ac a gafodd ddedfryd o bedair blynedd yn y carchar.
Michael Berry, 24, o Wrecsam a gafodd ei gyhuddo o drin nwyddau wedi eu dwyn ac a gafodd ddedfryd o ddwy flynedd yn y carchar.
Tom Cash, 26, o Wrecsam a gafodd ei gyhuddo o drin nwyddau wedi eu dwyn ac a gafodd ddedfryd o 12 mis, wedi ei ohirio am 18 mis a 150 awr o waith di-dâl.