Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a dwyllodd ac a ymosododd yn rhywiol ar ferch yn ei harddegau wedi cael ei garcharu.
Cafodd Roger Steele o Washington Street, Kidderminster, ei ddedfrydu heddiw yn Llys y Goron, Caernarfon (dydd Mercher 10 Ebrill), ar ôl euogfarn am ymosodiad rhywiol.
Anfonwyd y dyn 49 oed i’r carchar am wyth mlynedd, ac fe dderbyniodd orchymyn atal niwed rhywiol (SHPO) amhenodol.
Digwyddodd hyn rhywbryd rhwng 2007 a 2008 ond fe hysbysodd y dioddefwr yr heddlu ym mis Rhagfyr 2021.
Aeth Steele at y dioddefwr yn y Rhyl, a gan ei bod yn ei adnabod, fe wnaeth ei gyrru hi i’w gartref, lle ‘roedd hi’n meddwl oedd hi’n cyfarfod rhywun arall.
Pan gyrhaeddodd hi, ‘doedd neb arall yn y tŷ.
O fewn 15 munud, fe ymosododd Steel ar y dioddefwr yn rhywiol. Fel ‘roedd hi’n ceisio dianc, fe wthiodd hi i’r llawr a’i chadw yno, cyn ceisio tynnu lawr ei throwsus, a rhai ei hun.
Llwyddodd hi i’w gwffio oddi arni, ac fe wnaeth hi ddianc, ond fe wnaeth Steele ei bygwth hi efo trais os dywedai wrth unrhyw un beth oedd wedi digwydd.
Pan wnaeth hi ddarganfod bod Steele wedi’i ddedfrydu am drosedd arall, ‘roedd hi’n teimlo’n ddigon diogel i hysbysu’r heddlu o’r digwyddiad.
Cafodd Steele orchymyn atal yn ei rwystro rhag cysylltu efo’r dioddefwr.
Dywedodd y swyddog archwilio, y Rhingyll Ray Elliot: “Mae Steele yn unigolyn peryglus oedd wedi ysbeilio plentyn bregus ifanc a’u bregusrwydd er mwyn ei anghenion rhywiol ei hun.
“Defnyddiodd fygythiadau o drais ac ofn i ddychryn y dioddefwr, i sicrhau na hysbysodd hi’r heddlu am nifer o flynyddoedd.
“Hoffwn gymryd y cyfle i gymeradwyo dewrder y dioddefwr am ein hysbysu, ar ôl nifer o flynyddoedd yn dioddef mewn distawrwydd.
“‘Dwi’n gobeithio bod hyn yn annog dioddefwyr eraill ac yn rhoi hyder iddynt bod Heddlu Gogledd Cymru yn ymdrechu i archwilio ac i erlyn troseddwyr ac amddiffyn y mwyaf bregus yn ein cymdeithasau.”