Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae arolwg hyder gan y cyhoedd newydd wedi cael ei lansio gan Heddlu Gogledd Cymru wrth geisio chwilio am adborth hanfodol gan drigolion Gogledd Cymru.
Bydd yr arolwg yn rhoi cyfle i gyfranogwyr roi eu barn ar blismona yng Ngogledd Cymru gan gynnwys lefelau hyder, teimlo’n ddiogel, gwelededd Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion Cymunedol yr Heddlu ac yn gofyn y cwestiwn a yw eich problemau yn cael eu deall a’u trin.
Bydd hefyd yn ceisio gweld pa mor hyderus mae pobl yn teimlo ynglŷn â sut mae’r heddlu’n delio’n effeithiol hefo materion megis troseddau seiber ar-lein, trais yn erbyn merched a genethod a cham-drin domestig.
Yr un mor bwysig, mae’r arolwg yn gofyn beth fuasai pobl yn newid ym maes plismona lleol.
Dywedodd Nigel Harrison, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: “‘Da ni eisiau gwybod beth yr ydych yn feddwl o Heddlu Gogledd Cymru, felly mae hwn yn gyfle i chi roi gwybod i ni sut y gallwn ddarparu gwasanaeth gwell.
“‘Da ni eisiau deall yn well sut beth ydy hi i fyw yn eich ardal chi fel y gallwn ni gydweithio er mwyn ymateb i unrhyw broblemau neu bryderon.
“Dros y blynyddoedd diwethaf ‘da ni wedi parhau i wneud popeth yn ein gallu ni er mwyn helpu’r cymunedau ‘da ni’n yn eu gwasanaethu. ‘Da ni wedi cael nifer o lwyddiannau, gan leihau troseddau dros wyth y cant. Mae gwaith caled ac ymrwymiad swyddogion a staff yn creu rhai o’r canlyniadau gorau yn Arolwg Trosedd Cymru a Lloegr ONS diweddar.
“‘Dydyn ni ddim yn hunanfodlon a ‘da ni o hyd yn chwilio am ffyrdd sut y gallwn wella a helpu gwneud Gogledd Cymru y lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld yn y DU.
“Mi fuaswn i’n hoffi annog unrhyw un i gymryd yr amser er mwyn cwblhau’r arolwg byr a rhoi eu hadborth.”
Dylai’r arolwg gymryd rhwng pump a deg munud i’w gwblhau ac mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg yma: https://survey.northwalescommunityalert.co.uk/Survey/GUID/bdb49c2e-8dcc-437a-b01f-dd5094efb18d
Mae’r arolwg yn agored am gyfnod o ddau fis ac mi fydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Heddlu Gogledd Cymru ymhen amser.
Nodiadau:
*Os hoffech chi dderbyn yr arolwg mewn fformat neu iaith wahanol, cysylltwch hefo ni drwy: Cysylltu â ni | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)
Bydd eich data personol chi'n cael ei ddinistrio o fewn 24 mis o'r arolwg hwn, ond bydd gweddill eich ymatebion yn cael ei gadw ar gyfer ystadegau. Am fwy o wybodaeth am eich hawliau chi, sgroliwch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'hysbysiad preifatrwydd'.
Ar gyfer Diogelu Data, ceisiadau mynediad at ddata gan y gwrthrych neu dynnu caniatâd yn ôl ayyb: Ysgrifennwch at y Swyddog Diogelu Data ym Mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru, Glan y Don, Bae Colwyn, LL29 8AW neu drwy e-bost ar [email protected]