Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 47 oed wedi cael ei garcharu am chwe blynedd a hanner am droseddau yn cynnwys byrgleriaeth, twyll a lladrad.
Ymddangosodd Nicholas Wilcock, o Bethel Place, Cei Connah, yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddoe, 27 Chwefror, wedi'i gyhuddo o ladrata o siop, byrgleriaeth, a throseddau twyll.
Ym mis Mehefin 2023, gwnaeth Wilcock dresbasu a dwyn stoc o uned storio busnes.
Yna, ym mis Gorffennaf ac Awst, gwnaeth Wilcock ddwyn o siopau bedair gwaith dros gyfnod o bum diwrnod, hefo cyfanswm yr eitemau dros £500.
Ym mis Awst a Medi, fe wnaeth dresbasu a chyflawni byrgleriaeth dair gwaith yn ardal Ewlo a Chei Connah, gan ddwyn eitemau fel offer pŵer, arian parod a chardiau banc gwerth dros £700.
Ar yr un diwrnod, gwnaeth Wilcock dwyllo drwy geisio defnyddio'r cardiau banc a oedd wedi'i dwyn mewn siop bapur gerllaw. Fe ddaeth yr heddlu i'r siop a dod o hyd iddo fo hefo'r cardiau banc a oedd wedi'u dwyn.
Fe wnaeth dderbyn chwe blynedd a hanner o garchar.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Wes Williams: "Mae Wilcock yn droseddwr di-baid sydd wedi achosi gofid sylweddol i gymunedau Gogledd Sir y Fflint, hefo llawer o bobl yn cael eu heffeithio gan yr hyn mae'n ei wneud dros y blynyddoedd.
"Dwi'n falch o ganlyniad heddiw a dwi'n gobeithio fod hyn yn tawelu meddwl y gymuned na ydy byrgleriaeth a dwyn yn cael ei oddef.
"Mae byrgleriaethau'n parhau'n brin iawn yn ein hardal ni, a 'da ni'n parhau atal y mathau hyn o droseddau drwy ein menter Dangos y Drws i Drosedd ac adborth gan ein cymunedau drwy'r system rybudd cymunedol.
"Buaswn i'n hoffi diolch i'r cyhoedd am eu help parhaus. Dwi'n parhau annog trigolion barhau'n wyliadwrus a riportio gweithgarwch amheus i'r heddlu, neu'n ddienw drwy Crimestoppers."
Mae trigolion yn gallu cofrestru er mwyn derbyn diweddariadau rheolaidd gan ein tîm cymdogaethau drwy www.northwalescommunityalert.co.uk