Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dedfrydwyd tri dyn yn dilyn canfod ffatri ganabis ar raddfa ddiwydiannol ym Mangor.
Ymddangosodd Bedri Elezi, 36, Fabjol Mucaj,21, ac Agron Aruci, 30, yn Llys y Goron, Caernarfon heddiw, 25 Medi ar gyhuddiadau o gynhyrchu cyffur Dosbarth B. Cafodd Bedri Elezi ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar.
Dedfrydwyd Fabjol Mucaj i 22 mis o garchar.
Dedfrydwyd Argon Aruci i 22 mis o garchar.
Ar ddydd Mercher, 22 Mawrth 22 tua 5am, aeth yr heddlu i adeilad gwag ar Stryd Fawr Bangor yn dilyn gweithgaredd amheus yn yr ardal.
Wrth gyrraedd, canfuwyd bod yr adeilad tri llawr wedi ei addasu i dyfu planhigion canabis ar raddfa ddiwydiannol.
Canfuwyd dros 500 o blanhigion i gyd, gwerth tua £266,000.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: “"Rydym yn parhau i dargedu unigolion sy'n ceisio dod â chyffuriau i gymunedau yng Ngwynedd.
"Rydym yn gwrando ac yn ymateb i bob gwybodaeth a gofidion yn ymwneud â ffermydd canabis yn yr ardal.
“Os byddwch yn gweld, clywed neu arogli arwyddion o ganabis, dewch atom yn uniongyrchol neu yn ddi-enw a byddwn yn ymchwilio i'r honiadau yn drylwyr.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am gyffuriau yn eich ardal, cysylltwch â ni drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101 neu riportio yn ddi-enw drwy Crime Stoppers.