Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau o gefnogwyr Wrecsam wedi derbyn Gorchymyn Gwahardd Pêl Droed hir yn dilyn achosion o anrhefn yng ngemau'r clwb.
Derbyniodd Liam Ganch Nikolic o Fryn Offa, Wrecsam orchymyn pum mlynedd ar ôl iddo gael ei ganfod hefo ffagl yn ei feddiant mewn gêm y tymor diwethaf.
Cafodd y dyn 25 oed ei arestio am gario'r teclyn pyrotechnegol yng ngêm Cwpan yr FA Wrecsam yn Sheffield United ym mis Chwefror 2023.
Yn fwy diweddar, cafodd Leevie James Edwards, 18, o Goed Efa, Wrecsam orchymyn gwahardd am dair blynedd am droseddau cyffuriau.
Cafwyd ef â chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant wrth wylio gêm oddi cartref yng Nghynghrair Dau yn erbyn AFC Wimbledon ar 12 Awst 2023.
Bydd y ddau rŵan yn cael eu gwahardd rhag mynychu unrhyw gemau pêl droed yn y DU am gyfnod y gorchmynion.
Gall methu â chydymffurfio â'r gorchymyn arwain at ddirwy neu chwe mis o garchar.
Dywedodd Dave Evans, Swyddog Penodol ar gyfer Pêl-droed: "Dylai digwyddiadau fel hyn atgoffa pobl nad ydy Heddlu Gogledd Cymru yn goddef unrhyw gythrwfl ar ddyddiau gemau.
"Mae defnyddio ffaglau ac offer pyrotechnegol mewn stadiymau pêl droed wedi'u gwahardd yn gyfan gwbl. Mae'r bobl hynny sy'n defnyddio'r teclynnau hyn yn peryglu eu hunain a phobl eraill.
"Mae hyd y gwaharddiad hwn yn adlewyrchu'r canlyniadau difrifol a ddaw o aflonyddu mewn gemau. Dylai fod yn ataliwr i bobl eraill.
"Yn yr un modd, 'da ni'n gwybod fod cyffuriau, mynd dros ben llestri ac alcohol yn achos parhaus ymddygiad gwael mewn pêl droed.
"Bydd unrhyw gefnogwyr fydd yn cael eu canfod hefo sylweddau anghyfreithlon yn eu meddiant yn cael eu trin yn llym."
Dywedodd datganiad gan glwb Clwb Pêl-droed Wrecsam: “Unwaith eto, mae’r dedfrydau hyn yn dangos yn glir na fydd ymddygiad annerbyniol yn cael ei oddef mewn gemau CPD Wrecsam, naill ai yn y STōK Cae Ras neu oddi cartref, a bod canlyniadau difrifol i’r rhai sy’n ceisio achosi. tarfu.
“Diolch i Heddlu Gogledd Cymru am eu gwaith ar y mater hwn. Byddwn yn parhau i gydweithio i sicrhau bod gemau CPD Wrecsam yn amgylchedd croesawgar i bawb.”