Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 36 oed o Sir y Fflint wedi'i garcharu heddiw am dreisio.
Ymddangosodd Terry Anthony Nicholas, o Jubilee Road, Bwcle, ger bron Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw (dydd Iau, 30 Tachwedd) lle cafodd ei ddedfrydu i wyth mlynedd a hanner o garchar.
Fe'i cafwyd yn euog o dreisio yn dilyn achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug fis diwethaf. Digwyddodd y drosedd yn Sir y Fflint yn 2021.
Rhaid i Nicholas dreulio dwy ran o dair o'r ddedfryd yn y ddalfa cyn cael ei ryddhau ar drwydded. Rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am oes. Cafodd orchymyn atal hefyd yn erbyn y dioddefwr am gyfnod amhenodol.
Dywedodd y Swyddog Ymchwilio sef y Ditectif XXXX: "Dwi'n cymeradwyo dewrder y dioddefwr a deimlodd eu bod yn gallu riportio'r digwyddiad hwn i ni ac a ddangosodd ddewrder a chryfder drwy gydol yr achos i gyd.
"Dwi'n gobeithio y byddan nhw rwan yn gallu canolbwyntio ar symud ymlaen gyda'u bywydau gan wybod bod Nicholas bellach yn atebol am y drosedd gywilyddus hon.
“Dwi'n annog pawb sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol i ddod ymlaen, gan wybod y byddwn ni'n gwneud popeth er mwyn ymlid troseddwyr a gwarchod y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas ni."
Mae tîm Amethyst Heddlu Gogledd Cymru yn cynnwys swyddogion sydd wedi derbyn hyfforddiant arbennig er mwyn helpu dioddefwyr drwy ymchwiliadau o'r natur hon.
Mae'r tîm yn gweithio'n agos hefo'r Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) er mwyn darparu cymorth meddygol, ymarferol ac emosiynol cyfrinachol gan feddygon, nyrsys a gweithwyr cymorth arbenigol.
Gallwch fynd ar ein gwefan yma am fwy o wybodaeth ar sut i geisio help – Treisio, ymosodiad rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu Gogledd Cymru