Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion sy’n ymchwilio gwrthdrawiad angheuol pan fu farw pedwar llanc ifanc wedi gwneud apêl am ffilm camera cerbyd.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4085 ger Garreg, Llanfrothen yng Ngwynedd. Cafodd car Ford Fiesta lliw arian ei ddarganfod ar ddydd Mawrth, Tachwedd 21ain.
Yn anffodus cadarnhawyd fod pedwar llanc ifanc wedi marw yn y fan a’r lle – Jevon Hirst, 16 oed, Harvey Owen, 17 oed, Wilf Fitchett 17 oed a Hugo Morris, 18 oed.
Mae’r heddlu’n awyddus iawn i dderbyn ffilm camera cerbyd gan unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd yr A4085 rhwng Penrhyndeudraeth a Beddgelert i’r ddau gyfeiriad, rhwng 11 o’r gloch bore ddydd Sul, Tachwedd 19 a 10am ar ddydd Mawrth, Tachwedd 21.
Meddai’r Uwcharolygydd Simon Barrasford o Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn cydymdeimlo’n ddwys hefo teuluoedd y pedwar bachgen. Maent i gyd yn cael eu cefnogi gan Swyddog Cyswllt Teuluol arbenigol.
“Mae ymchwiliad llawn a manwl ar waith er mwyn darganfod achos y gwrthdrawiad. Mae rhan o’r ymchwiliad hwnnw yn cynnwys edrych ar luniau teledu cylch cyfyng a hoffem ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cysylltu â ni.
“Mae rhan o‘r ymchwiliad hefyd yn cynnwys ymchwiliad fforensig llawn ar y car ac mae’r gwaith yma’n parhau gyda’r Uned Ymchwilio Fforensig Gwrthdrawiadau.
“Hoffem hefyd ddatgan ein diolch i’r gymuned yng Ngharreg am eu amynedd a dealltwriaeth parhaol.”
Fel sy’n digwydd hefo gwrthdrawiadau traffig y ffyrdd, mae arwyddion a conau wedi cael eu gosod yn y safle gan yr adran briffyrdd.
Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau camera cerbyd a all gynorthwyo’r ymchwiliad i gysylltu â swyddogion yn Uned Troseddau’r Ffyrdd drwy’r wefan gan nodi’r rhif cyfeirnod 23001169854.
Gofynnir i bobl barchu preifatrwydd y teuluoedd ar yr adeg anodd iawn yma.