Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Carcharwyd dau ddyn ddoe (6 Mawrth) yn dilyn canfod ffatri gwerth £1m o bunnau ar Stryd Fawr Bangor.
Cyhuddwyd Elidon Hodaj, 27 oed, o gynhyrchu cyffuriau Dosbarth B a'i ddedfrydu i ddwy flynedd a dau fis o garchar.
Cyhuddwyd Landi Ruci, 32 o gynhyrchu cyffuriau Dosbarth B a'i ddedfrydu i ddwy flynedd a dau fis o garchar.
Byddant yn cael eu hallgludo yn dilyn eu dedfryd.
Ymddangosodd y ddau ddyn gerbron Llys y Goron Caernarfon ddoe yn dilyn gwarant gan yr heddlu ar 29 Ionawr pan ganfuwyd ffatri ganabis ar raddfa ddiwydiannol yn ymestyn dros bedwar llawr.
Canfuwyd bod y dynion hyn yn tyfu dros 2000 o blanhigion gwerth dros £1m o bunnau. Hefyd, defnyddiwyd gwerth £20,000 o olau i bweru'r ffatri.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: "Rydym yn parhau i dargedu unigolion sy'n ceisio dod â chyffuriau i gymunedau yng Ngwynedd.
"Hoffwn sicrhau'r cyhoedd sy'n byw ac yn gweithio ym Mangor ein bod ni yn gwrando ac yn ymateb i'r holl wybodaeth a gofidion yn ymwneud â ffermydd canabis honedig yn yr ardal.
“Os byddwch yn gweld, clywed neu arogli arwyddion o ganabis, dewch atom yn uniongyrchol neu yn ddi-enw a byddwn yn ymchwilio i'r honiadau yn drylwyr.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am gyffuriau yn eich ardal, cysylltwch â ni drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101neu riportio yn ddi-enw drwy Crime Stoppers.