Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddechrau mis Mawrth, ymgymerwyd ag Ymgyrch "Blue Silver Birch" er mwyn gwarchod dioddefwyr trais domestig ymhellach.
Aeth swyddogion i gartrefi'r dioddefwyr er mwyn sicrhau nad oedd toriadau i amodau Gorchmynion Aflonyddu presennol wedi'u gwneud gan y rhai o dan amheuaeth.
Yn ystod yr ymgyrch, dadlennwyd digwyddiad i swyddogion lle'r oedd yr un o dan amheuaeth wedi ychwanegu'r dioddefwr i grŵp stori Instagram caeedig gyda dim ond y ddau ohonynt ynddo, cyn ychwanegu straeon a oedd wedi'u hanelu at y dioddefwr.
Mae hon yn ffordd glyfar iawn o dorri amodau'r Gorchymyn Aflonyddu, ac mae'r un a amheuir yn gwadu hyn gan ei fod yn cael ei gyhoeddi i stori gyffredinol. Nid oes hysbysiad i'r dioddefwr eu bod wedi'u hychwanegu i'r hyn sy'n grŵp caeedig, ac ni all y dioddefwyr weld pwy arall sydd yn y grŵp. (Mae'n werth gwybod os ydy grŵp caeedig wedi'i greu, bydd amlinelliad o'r blwch stori yn wyrdd.)
Arestiwyd dyn wedi hyn yn oriau mân 2 Mawrth ac fe gafodd ei remandio yn y ddalfa. Ar 3 Mawrth, rhoddodd y Llys Orchymyn Gwarchodaeth rhag Aflonyddu, ac fe roddodd ddedfryd 12 wythnos wedi'i gohirio am ddigwyddiadau 2 Mawrth. Gallai unrhyw doriadau pellach arwain at y Llys yn gweithredu'r ddedfryd o garchar.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Jason Devonport, Arweinydd Trais yn Erbyn Merched a Genethod ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym wedi ymroi i ddileu pob math o drais yn erbyn merched a genethod. Mae trais a cham-drin domestig yn erbyn pob unigolyn yn flaenoriaeth i ni. Gwnawn ddefnyddio pob grym sydd ar gael i ni er mwyn cadw'n cymunedau'n ddiogel.
"Mae llawer o bobl sy'n troseddu ar-lein yn meddwl mai'r unig ganlyniad fydd cysylltiad gyda'r heddlu a'r senario gwaethaf un fydd mynd i'r carchar. Ond mae llawer mwy o ganlyniadau, a gall euogfarn effeithio eich mynediad at eich plant, eich perthynas, eich cyllid a'ch swydd.
"Os ydych chi, neu rywun rydych yn eu hadnabod, wedi dioddef trais domestig neu aflonyddu, mae ychydig o ffyrdd amrywiol y gallwch ein hysbysu ni amdano. Rydym yn deall y gall fod yn anodd. Mae ein swyddogion a sefydliadau partner yma i wrando a gweithio gyda'i gilydd er mwyn eich cynorthwyo chi mewn unrhyw ffordd allwn. Yr hyn sy'n bwysig ydy gall eich gwybodaeth ein cynorthwyo ni ddod â'r troseddwr o flaen eu gwell a sicrhau eich bod chi, a phobl eraill mewn sefyllfa gymharol, yn cael eu cadw'n ddiogel."
Os hoffech hysbysu ar-lein, yn hytrach na siarad gyda swyddog dros y ffôn yn y lle cyntaf, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth hysbysu trosedd ar-lein sy'n ddiogel a chyfrinachol.
Os hoffech siarad hefo rhywun, mae ein rhif ffôn difrys cenedlaethol ar gael ddydd a nos. Ffoniwch ni ar 101 a hysbyswch am yr hyn ddigwyddodd neu gael cyngor.
Ydy rhywun mewn perygl uniongyrchol? Oes trosedd yn digwydd neu a ydy un newydd ddigwydd? Os felly, ffoniwch 999 rŵan a gofynnwch am yr heddlu. Os ydych yn fyddar neu yn drwm eich clyw, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu tecstiwch ni ar 999 os ydych wedi cofrestru'n barod gyda'r gwasanaeth brys SMS.