Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
c
Mae'r wobr wedi'i chyflwyno fel rhan o Wythnos Weithredu Genedlaethol Plismona Ymateb, sydd â'r nod o gydnabod rôl hanfodol plismona ymateb ledled y DU.
Cyflwynwyd y wobr i PC Miriam Ellis gan y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman gan gydnabod ei gwaith caled a'i phenderfynoldeb i ddarparu gwasanaeth da i ddioddefwyr a'r gymuned ehangach.
Mae Miriam yn gweithio o'r Wyddgrug ac mae wedi gwasanaethu fel swyddog heddlu ers saith blynedd. Fe ŵyr ei chydweithwyr a'i chymuned ei bod yn swyddog dibynadwy, sy'n arddangos y safonau a phroffesiynoldeb uchaf yn ei rôl.
Mae wedi derbyn adborth cadarnhaol sawl gwaith gan ddioddefwyr y mae wedi'u cynorthwyo a'u diogelu drwy achosion o gam-drin domestig. Dro ar ôl tro, mae Miriam wedi sicrhau bod pobl yn cael eu cadw yn y ddalfa ac felly'n diogelu dioddefwyr, y cyhoedd ac yn lleihau galw yn y dyfodol a lleihau dioddefwyr.
Mae Miriam hefyd yn siarad Cymraeg ac yn bencampwr Cymraeg yn ei hardal, sydd wedi gwella'r gwasanaeth a gynigir i drigolion Cymraeg yn Ne Sir y Fflint.
Cymeradwywyd y gorau o'r gweddill hefyd sef PC Charlotte Perrin yn Rhosllannerchrugog, PC Bethan Williams yn Rhuthun a PC Emily Shone yng Nghaergybi. Fe'u cymeradwywyd am eu cyfraniad rhagorol i blismona ymateb drwy gydol y flwyddyn.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman: "Mae'n bleser gennyf gyflwyno Gwobr Swyddog Ymateb y Flwyddyn i PC Miriam Ellis. Mae o hyd yn ymroi i'w chymuned ac yn ceisio darparu gwasanaeth gwych i ddioddefwyr trosedd.
"Dylai deimlo'n hynod falch o'r hyn mae wedi'i gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf yn edrych ymlaen at glywed mwy o ganlyniadau cadarnhaol yn ystod ei gyrfa.
"Hoffwn hefyd gydnabod y gorau o'r gweddill ar gyfer y wobr hon. Maent yn gaffaeliad mawr i'r heddlu, ac rwyf yn falch o'u cael yn gwasanaethu Heddlu Gogledd Cymru."
Cadwch lygad ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr wythnos lle byddwn yn taflu goleuni ar ein swyddogion ymateb gan ddefnyddio #WythnosPlismonaYmateb.