Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wnaeth gam-drin geneth yn rhywiol yn fynych ac a drefnodd i bobl eraill ei cham-drin hi hefyd, wedi'i ddedfrydu i garchar am oes.
Gwnaeth Michael Stewart, 41, o ddim cartref sefydlog gyfaddef i'r cyhuddiadau o gam-drin rhywiol a bydd yn y carchar am 16 mlynedd o leiaf.
Canfuwyd ei gyd-ddiffynnydd Matthew Penny, 44, o ddim cartref sefydlog, yn euog ar ôl achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug. Cafodd ddedfryd o 20 mlynedd. Bydd yn gymwys cael ei ryddhau ar ôl 13 mlynedd, gan dreulio chwe blynedd arall ar drwydded.
Yn siarad ar ôl y dedfrydu, dywedodd DC Emma Faulkner o Uned Gwarchod Pobl Fregus yr heddlu: "Rwyf yn croesawu euogfarn Michael Stewart a Matthew Penny am y troseddau hyn.
"Mae hwn wedi bod yn achos dirdynnol a chymhleth i bawb. Rydym wedi gweithio'n ddiflino ar gyfer dedfryd heddiw.
"Rhaid i ni gydnabod bod merch ifanc yng nghanol yr achos hwn. Mae ei dewrder a'i gonestrwydd hi wedi dod â dau ddyn llygredig a pheryglus o flaen eu gwell. Rydym yn hynod ddiolchgar am ei chymorth.
"Fe wnawn barhau i ymlid troseddwyr fel Stewart a Penny yn ddiwyro. Fe wnawn annog unrhyw un sy'n dioddef cam-drin o'r fath i gysylltu â ni. Cewch eich credu a chaiff eich gwybodaeth ei thrin yn gwbl gyfrinachol."