Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dros 100 o arestiadau wedi cael eu gwneud fel rhan o’n hymgyrch yn erbyn gyrru o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau dros yr Ŵyl.
Ers cychwyn yr ymgyrch ar Ragfyr y cyntaf, mae 45 o arestiadau am yfed a gyrru a 59 o arestiadau am yrru o dan ddylanwad cyffuriau wedi cael eu gwneud ar draws y rhanbarth.
Mi fydd sawl un o’r rhai sydd wedi cael eu harestio am yfed a gyrru yn ymddangos o flaen y llysoedd dros yr wythnosau nesaf ac maent yn wynebu colli eu trwydded gyrru a derbyn dirwy. Mi fydd rhai hefyd yn wynebu cyfnod o garchar.
Mae’r rhai a gafodd eu harestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau yn wynebu disgwyl am ganlyniadau profion pellach.
Meddai’r Arolygydd Leigh Evans o Uned Troseddau’r Ffyrdd: “Er gwaethaf ein rhybuddion niferus mae’n hynod o siomedig bod lleiafrif yn anwybyddu ein negeseuon ac yn peryglu bywydau eu hunain ac eraill.
“Mae gyrru tra o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn un o’r penderfyniadau mwyaf hunanol mae gyrwyr yn gallu gwneud a dwi’n erfyn ar fodurwyr i feddwl cyn iddynt benderfynu dreifio.
“Rydym yn disgwyl penwythnos prysur gan fydd nifer o bobl yn gorffen gwaith heddiw cyn y Nadolig, felly rydym yn disgwyl y bydd tafarndai yn hynod o brysur. Er ein bod ni eisiau i bawb fwynhau eu hunain rydym am i bawb ymddwyn yn gyfrifol. Mi wnawn barhau i gydweithio â phartneriaid gan gynnwys tafarndai er mwyn sicrhau penwythnos diogel i bawb.
“Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu’r ffyrdd i bawb a byddwn yn parhau i dargedu’r rhai sy’n peryglu bywydau pobl eraill. Peidiwch ag yfed o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau – mae hyd yn oed cyfanswm bach yn gallu effeithio ar eich gallu i yrru’n ddiogel. Peidiwch â gadael i’ch teulu ddioddef oherwydd eich camgymeriad chi.
Os credwch fod rhywun yn gyrru a ddim yn gymwys i wneud hynny, riportiwch o ar unwaith i’r heddlu ar 101 (neu 999 os oes rhywbeth peryglus ar fin digwydd) neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Gall defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol ddilyn yr ymgyrch drwy’r hashnodau #OpLimit a #5Angheuol
Nodiadau: