Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi'u harestio yn dilyn gwarantau ddoe.
Ar ddydd Mawrth 8 Awst, gwnaeth swyddogion gynnal gwarantau mewn dau eiddo ym Mangor a arweiniodd at nifer o gyffuriau dosbarth A a dau ddryll tanio ffug yn cael eu hatafaelu.
Arestiwyd dau ddyn lleol 20 oed ar amheuaeth o feddu cyffuriau dosbarth A a dryll tanio ffug.
Maen nhw'n parhau yn y ddalfa tra mae ymholiadau'n parhau.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Ian Roberts: "'Da ni'n dal i fynd ar ôl y rhai hynny sy'n trio achosi drwg i'n cymunedau.
"'Da ni'n ddiolchgar am y pryderon a godwyd gan drigolion. Roeddem ni wedyn yn medru gweithredu'n sydyn."
Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am gyflenwi cyffuriau yn eich ardal chi, cysylltwch â'r heddlu drwy ein gwefan ni neu drwy ffonio 101. Fel arall, cysylltwch hefo Crimestoppers yn ddienw.