Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn ymchwiliad gan Uned Troseddau Trefnedig yr heddlu (SOCU) a chyda chefnogaeth Uned Troseddau Trefnedig y Gogledd Orllewin, Swydd Efrog ac Uned Troseddau Trefnedig Rhanbarthol Humber, Tîm Ymchwilio Ariannol a Throseddol y Gogledd Orllewin, arestiwyd 10 dyn ddoe yn ardaloedd De a Gorllewin Swydd Efrog, Swydd Caer, Gorllewin Canolbarth Lloegr a'r Rhyl mewn cyswllt ag ymchwiliad i gynllwynio i dyfu canabis yn y Rhyl.
O'r rhai a gafodd eu harestio cyhuddwyd Faisall Aslam 48 o Bradford, Shakeel Aslam 50 o Gaer, Akeel Aslam 50 o'r Rhyl, Oltian Salla 34 o Birmingham, Aranit Kapo 22 o Sheffield, Shpetim Kapo 24 o Doncaster, Ronaldo Hazizi 24 o Doncaster, Kalemi Besim 22 o Sheffield, Edison Cela 28 o Sheffield ac Ardit Lici 27 o Sheffield o gynhyrchu a chyflenwi cyffuriau Dosbarth B. Cafodd pob un eu cadw yn y ddalfa.
Dywedodd Ditectif Arolygydd SOCU Richard Sidney: “Mae'r gweithredu heddiw yn rhan o'n hymateb yn sgil canfod swm sylweddol o ganabis yn y Rhyl.
‘Byddwn yn parhau i atal hyn gan fod mentrau o'r fath yn aml yn ariannu Grwpiau Troseddau Trefnedig.'
Dywedodd Arolygydd Kevin Smith: ‘Mae ein tîm wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch trigolion y Rhyl. “Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cymorth, byddwn yn parhau i weithredu ar unrhyw wybodaeth a roddir i ni.
‘Rydym wedi ymrwymo i wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel yn y DU i fyw, gweithio ac ymweld ag o, ac mae'r dref lan môr hon wedi ymroi yn llwyr i hynny.'