Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Eleni, mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn syrthio ar yr un wythnos a Chwpan y Byd FIFA, felly nid oes amser gwell i bobl ledled y wlad ddod at ei gilydd a chwarae fel tîm er mwyn cynorthwyo diweddu trais yn erbyn merched a genethod.
Eleni, mae Heddlu Gogledd Cymru yn cefnogi'r ymgyrch gyda neges rymus gan Glwb Pêl Droed yr Heddlu, sydd wedi creu fideo byr yn cynnwys sawl chwaraewr o'r tîm sy'n gymysgedd o swyddogion a staff yr heddlu. Codir ymwybyddiaeth am Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ac #YrAmcan er mwyn diweddu trais yn erbyn merched a genethod.
Dywedodd y Rhingyll Dylan Thomas, Capten Tîm Pêl Droed Heddlu Gogledd Cymru: "Gyda Diwrnod y Rhuban Gwyn yn cyd-daro gyda dechrau Cwpan y Byd, roedd ond yn iawn ein bod ni fel tîm yn cymryd rhan.
"Gyda'n gilydd, roeddem yn awyddus taflu goleuni ar y mater pwysig hwn, gan godi ymwybyddiaeth er mwyn cynorthwyo diweddu trais yn erbyn merched a genethod."
Dywedodd Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru: "Rwyf yn falch ymuno a chydweithwyr i nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn.
"Mae ymdrin â thrais yn erbyn merched a genethod yn flaenoriaeth allweddol i Heddlu Gogledd Cymru. Rydym wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth er mwyn ymdrin â'r problemau hyn.
"Rydym yn deall er mai merched ydy'r mwyafrif sy'n cael eu heffeithio gan y troseddau ffiaidd hyn, nid nhw ydy'r unig rai. Ni ddylai neb betruso ceisio cymorth yr heddlu neu asiantaethau cymorth os ydynt yn cael eu heffeithio.
"Mae gwisgo'r rhuban gwyn yn nodi ein hymrwymiad i wella canlyniadau i ddioddefwyr a lleihau'r nifer o ddioddefwyr. Nid ydy plismona'n peidio ar ôl Diwrnod y Rhuban Gwyn. Gwnawn barhau gyda'n gwaith i ymdrin â throseddwyr trais yn erbyn merched a genethod."
Dywedodd Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: "Rwyf yn falch o ddangos fy nghefnogaeth i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn a'r ymgyrch i ymgysylltu dynion a bechgyn mewn diweddu trais yn erbyn merched a genethod. Rwyf yn credu bod rhaid i drais rhywedd ddiweddu ac y dylai dynion a bechgyn chwarae eu rhan mewn codi llais a stopio'r ymddygiad hwn.
Rwyf hefyd yn falch o weld Clwb Pêl Droed Heddlu Gogledd Cymru yn chwarae eu rhan wrth gefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn, yn enwedig o ystyried bod Cwpan y Byd wedi dechrau'r wythnos hon hefyd. Fel y bydd Cymru a'r Wal Goch yn gwisgo'r crys coch ac yn sefyll fel un, rwyf yn credu y gallwn ni gyd wisgo'r rhuban gwyn a sefyll fel un er mwyn atal trais yn erbyn merched a genethod gan ddynion a bechgyn."
Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod angen cymorth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru, neu rywun rydych yn teimlo'n gyfforddus siarad â nhw, fel y gall yr Heddlu weithredu.
Er mwyn hysbysu am ddigwyddiad difrys ar-lein, ewch ar Cysylltu â ni | Heddlu Gogledd Cymru neu ffoniwch 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
Gallwch wybod mwy am Ddiwrnod y Rhybudd Gwyn a'r hyn gallwch ei wneud i'w gefnogi yma: Diwrnod y Rhuban Gwyn 2022 – White Ribbon UK