Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bob blwyddyn mae'r tymor nythu yn gweld diwedd dyddiau llwm y Gaeaf a dyfodiad y Gwanwyn, wrth i fywyd newydd gael ei greu ledled Cymru. Mae adar mudol yn dychwelyd i'n glannau ac mae ein hadar cynhenid yn brysur yn adeiladu neu'n ailsefydlu eu preswylfeydd ar gyfer bywyd newydd.
Yn anffodus, un o'r ymholiadau bywyd gwyllt mwyaf cyffredin y mae'r heddlu'n ei dderbyn yn ystod y cyfnod hwn yw torri gwrychoedd neu goed, a allai niweidio nythod a bygwth dyfodol rhai rhywogaethau. Er bod adar yn amrywio yn eu hamseroedd nythu, rheol arferol o fawd yw bod y misoedd o fis Mawrth i fis Awst yn hanfodol iddynt a gall unrhyw aflonyddwch neu ddinistrio fod yn drychinebus.
Yn aml, nid yw pobl yn gwbl ymwybodol o'r gyfraith, ond mae'r canllawiau a roddir gan yr RSPB ar eu gwefan yn glir meddai Rob Taylor, Cydlynydd Bywyd Gwyllt Heddlu Cymru.
"Rydym yn argymell osgoi torri gwrychoedd yn ystod y prif dymor bridio ar gyfer adar sy'n nythu, sydd fel arfer yn rhedeg drwy gydol mis Mawrth i fis Awst bob blwyddyn. Gall hyn fod yn ddibynnol ar y tywydd, a gall rhai adar nythu y tu allan i'r cyfnod hwn, felly mae'n bwysig gwirio'n ofalus bob amser am nythod gweithredol cyn eu torri.
Mae'n drosedd o dan Adran 1 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i gymryd, difrodi neu ddinistrio nyth unrhyw aderyn gwyllt yn fwriadol tra'i fod yn cael ei ddefnyddio neu'n cael ei adeiladu, neu i ladd, anafu neu gymryd cywion neu oedolion yn fwriadol, neu gymryd neu ddinistrio unrhyw wyau yn fwriadol.
Mae'n weithred fwriadol, er enghraifft, os ydych chi neu'ch cymydog yn gwybod bod nyth yn cael ei ddefnyddio mewn gwrych ac yr ydych yn dal i dorri'r gwrych, ei ddifrodi, neu ddinistrio'r nyth neu'r cynnwys yn y broses. Hefyd, dylai ffermwyr fod yn ymwybodol o hyn wrth gynllunio i gynnal gweithrediadau torri gwrychoedd.
Os yw rhywun yn torri gwrych yn ystod y cyfnod hwn, siaradwch â nhw a soniwch yn gwrtais am y risg i nythod adar a'r cyfreithiau sy'n gwarchod nythod. Os ydyn nhw'n mynd ymlaen a'ch bod chi'n gwybod bod nyth actif mewn perygl, cysylltwch â'r heddlu ar 101 a gofynnwch am gael siarad â swyddog bywyd gwyllt".
Mae gan Gymru nifer o swyddogion heddlu bywyd gwyllt a Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu sydd wedi'u hyfforddi'n dda a fydd yn gallu cynghori ymhellach ac, os oes angen, ymchwilio i unrhyw droseddau posibl ac wrth gwrs mae gwefan yr RSPB hefyd yn llawn gwybodaeth.
Cofiwch os ydych yn ansicr, gofynnwch, oherwydd nid yn unig mae'n niweidio nyth actif yn drosedd ond mae'n bygwth bodolaeth gwahanol rywogaethau ledled Cymru.