Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r Nadolig yn gyfnod prysur iawn ledled y gwasanaethau brys. Bydd swyddogion a staff heddlu ledled sawl adran yn parhau i gadw Gogledd Cymru'n ddiogel dros gyfnod yr ŵyl. Dyma rai ohonyn nhw...
Ystafell Reoli'r Heddlu
Mae Connor (chwith) a Joe (de) yn Gyfathrebwyr yn Ystafell Reoli'r Heddlu yn Llanelwy. Byddant yn gweithio o noson Nadolig i Wyl San Steffan.

Dywedodd Connor: "Rwyf wedi gweithio i Heddlu Gogledd Cymru am oddeutu 6 mlynedd. Treuliais 3 blynedd yn Ystafell Reoli'r Dwyrain gan gwmpasu Sir y Fflint a Wrecsam. Byddaf yn gweithio sifft 6pm – 3am ar ddydd Nadolig. Dyma'r ail waith i mi weithio ar ddydd Nadolig yn ystod fy nghyfnod yn HGC. Rwyf yn ystyried fy hun yn eithaf ffodus gan y byddaf yn gweithio sifft nos sy'n golygu y byddaf yn cael treulio rhan o ddydd Nadolig gyda'r teulu cyn dod i'r gwaith. Dydy rhai cydweithwyr ddim yn cael hynny hyd yn oed. Ar ochr arall y geiniog, rwyf yn ymfalchïo cael bod rhan o'r tîm o'r Ystafell Reoli, gan weithio'n galed er mwyn cadw'r cyhoedd yn ddiogel dros y Nadolig a threulio'r sifft gyda fy nheulu rota."
Dywedodd Joe: "Rwyf wedi bod gyda Heddlu Gogledd Cymru am bron i bedair blynedd ac yn Ystafell Reoli'r Heddlu ers ychydig dros flwyddyn. Dyma'r tro cyntaf i mi weithio ar ddydd Nadolig gyda Heddlu Gogledd Cymru. Yn ffodus, rwyf yn aelod o dîm da, a fydd yn gwneud y diwrnod yn bleserus o hyd, hyd yn oed os ydym yn gweithio a ddim yn ei dreulio gyda'n teulu. Byddaf yn gweithio sifft nos sy'n golygu y byddaf dal yn cael treulio rhan o'r diwrnod gyda'r teulu ac yn bwysicaf oll, cael cinio Nadolig."
Ymateb
Mae gan y mwyafrif ohonom "deuluoedd gwaith"...un teulu gwaith a fydd yn treulio'r Nadolig gyda'i gilydd eleni fydd Rota 2 o Dref Wrecsam. Byddant yn gweithio o 7yh tan 7yb ar fore Nadolig ac yna'n ôl eto am 7yh ar noson Nadolig tan 7yb ar Ŵyl San Steffan.

Bydd y Rhingyll Humphreys, PC Thompson, PC Horton, PC Eaton, PC O'Shaughnessy, PC Soares, PC Robertson, PC Hughes, PC Fleming, PC Howson a PC Poole yno i chi dros y Nadolig, yn eich cadw'n ddiogel.
“Er ein bod yn drist o fod i ffwrdd o'n teuluoedd, rydym yn fodlon gwarchod y cyhoedd a chynorthwyo ein gilydd wrth wneud."
Ymchwilwyr Mannau a Lleoedd
Bydd Ymchwilwyr Mannau a Lleoedd Trosedd hefyd yn gweithio ddydd Nadolig a Gŵyl San Steffan ledled yr heddlu cyfan, gan sicrhau fod mannau a lleoedd trosedd yn cael eu gwarchod a'u prosesu'n iawn er mwyn sicrhau unrhyw dystiolaeth fforensig.

Gwirfoddolwyr
Bydd y Swyddog Gwirfoddol Brandon Alford yn cynorthwyo ei gydweithwyr rheolaidd gydag ymgyrch galw Nadolig prysur o 7pm ar noswyl Nadolig tan 3am fore dydd Nadolig yn Llandudno.

"Mae'r Nadolig yn gyfnod mor brysur i blismona. Felly rwyf yn fodlon ildio peth o'm hamser ar ddydd Nadolig er mwyn cynorthwyo fy nghydweithwyr rheolaidd er mwyn cadw ein cymuned yn ddiogel."
Uwch swyddogion
Bydd y Prif Arolygydd Llinos Davies, sy'n gyfrifol am Wynedd, yn gweithio sifft 10 awr noson Nadolig, gan oruchwylio'r Heddlu o ystafell reoli Llanelwy.

Dywedodd y Prif Arolygydd Davies: "Nid ydy plismona'n stopio dros gyfnod yr ŵyl, gan gynnwys dydd Nadolig. Rwyf yn ddiolchgar cael tîm o swyddogion a staff penderfynol sy'n gweithio'n ddiflino er mwyn cadw ein cymunedau'n ddiogel.
Hoffwn ddymuno Nadolig diogel a llawen i bawb. I lawer, mae'r diwrnod yn gyfnod arbennig a dreulir gyda'r teulu. Fodd bynnag, rydym yn deall nad fel hyn y mae hi i bawb. Mae Heddlu Gogledd Cymru yma, yn barod i ymateb i unrhyw un o'r gymuned sydd efallai angen ein cymorth."
Uned Plismona’r Ffyrdd
Mi fydd PC Arwel Jones yn gweithio’r shift hwyr dros yr Ŵyl tra’n gweithio ar Uned Plismona’r Ffyrdd.
“Nid hwn yw’r tro cyntaf i mi weithio Diwrnod Dolig a dim y tro olaf fydd o chwaith ma siwr. Fel rhywun sy’n gweithio shifftiau ti’n gwybod dy fod yn debygol o weithio ar Ddiwrnod Dolig. Mae gen i ddau fab ifanc felly mi fydd hi’n anodd eu gadael nhw er mwyn mynd i’r gwaith, ond dwi’n ddiolchgar iawn y byddai yno i’w gweld nhw’n agor eu anrhegion gan Sion Corn ar fore Dolig.
“Mae’n sicr yn ddiddorol gweithio dros yr Ŵyl. Ti byth yn gwybod be nei di ddelio hefo. Ynghyd a sicrhau fod y ffyrdd yn rhedeg a fod modurwyr yn ddiogel fyddwn i hefyd yn barod i gynorthwyo cydweithwyr o adrannau eraill.”