Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a gafodd ei anafu’n ddifrifol ar ôl iddo gael ei ymosod arno gan ddyn hefo cyllell yn cefnogi ymgyrch genedlaethol sydd wedi’i hanelu i daclo troseddau yn ymwneud â chyllyll.
Derbyniodd Jake Pickstock, 24 oed o Landudno, anafiadau difrifol i’w wddf, ei ben ac ochr ei wyneb yn dilyn ymosodiad mewn clwb nos yn Llandudno yn ystod oriau mân yr 21 Awst.
Fe adawodd y troseddwr, Alex Jones, 19 oed o Bron Dirion, Treffynnon, y clwb nos a taflu’r arf i mewn i fin sbwriel cyfagos ond cafodd ei arestio toc yn ddiweddarach.
Yn ddiweddar fe gafodd ei ddedfryd i 10 mlynedd a pedwar mis o garchar.
Wedi’i gydlynu gan yr CCPSH (Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu), mae Ymgyrch Sceptre yn ymgyrch wythnos o’r 15 hyd at 21 Tachwedd, ac mae’n cynnwys y 43 heddlu gan gynnwys yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) yn dod at ei gilydd er mwyn mynd i’r afael âa throsedd yn ymwneud â chyllyll, sef y prif gyfraniad tuag at trosedd treisgar yn y DU.
Fel rhan o’r ymgyrch wythnos o hyd, mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi’r cyfle i bobl ildio eu cyllyll mewn modd diogel mewn biniau arbennig yng ngorsafoedd heddlu sydd â chownter blaen. Bydd biniau tebyg hefyd yn cael eu gosod mewn canolfannau ailgylchu i’r rhai sydd efallai ddim yn gyffyrddus yn mentro i orsaf heddlu.

Dywedodd Jake Pickstock, sy’n cefnogi’r ymgyrch: “Mae hwn yn newyddion gwych sy’n mynd i’r cyfeiriad iawn. Roedd beth ddigwyddodd i mi yn sioc enfawr, ac mae’n parhau i fod yn sioc i fy nheulu, ac yn anffodus dwi methu newid hynny.
“Ond be allai newid ydi troi’r ymosodiad i rhywbeth positif i Ogledd Cymru a’r frwydr yn erbyn trosedd yn ymwneud â chyllyll yn genedlaethol. Rwyf yn canolbwyntio ar amcanion posibl er mwyn atal ymosodiad fel hyn.
“Drwy gydweithio’n agos hefo Heddlu Gogledd Cymru, AS Janet Finch-Saunders a busnesau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth a gobeithio achub bywydau.
“Nid oes lle ar gyfer cyllyll ar strydoedd Gogledd Cymru. Mae troseddau yn ymwneud â chyllyll sawl effaith sy’n mynd ymhellach na’r dioddefwr. Mae pobl ifanc yn difetha eu bywydau drwy gario cyllyll ac mae’n cael effaith niweidiol ar y dioddefwyr a teuluoedd y troseddwyr.
“Dwi’n croesawu’r amnest gyllyll ac mae’n ffordd wych o symud ymlaen hefo’r ymgyrch yma.”
Dywedodd yr Arolygydd Wesley Williams o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn ei wneud er mwyn atgyfnerthu'r neges fod cario cyllell yn annerbyniol. Ni ddaw daioni o gario un.
“Mae bob achos sy'n cynnwys cyllell â chanlyniadau i bawb sydd ynghlwm. Mae hon yn broblem rydym yn ei chymryd yn hynod ddifrifol.
"Rydym yn gweithredu'n gadarn os ceir rhywun ym meddu cyllell neu arf miniog yn anghyfreithlon ar y strydoedd. Buaswn yn eich annog i gymryd y cyfle hwn i waredu unrhyw arfau drwy fynd â nhw i unrhyw gownter blaen yn ein gorsafoedd heddlu.
“Mae cyllyll yn beryglus ac nid oes lle iddynt ar strydoedd Gogledd Cymru. Tydi cario cyllell ddim yn eich cadw’n ddiogel. Rydych yn peryglu eich hun drwy gario cyllell ac rydych yn fwy tebygol o gael eich niweidio mewn digwyddiad treisgar.
"Tra mae achosion a gyrwyr troseddau cyllyll yn gymhleth, mae ymyrraeth gynnar a gosod mesurau er mwyn ymdrin â'r gwir achosion yn gwbl hanfodol. Rydym yn ymroddedig i ymdrin yn gydweithredol â mynd i'r afael a throseddau cyllyll ledled gogledd Cymru. Gwnawn barhau'r gwaith llwyddiannus gyda'n partneriaid a chymunedau sydd eisoes yn bodoli.
“Mae gan fân-werthwyr rôl bwysig i'w chwarae wrth ymdrin â throseddau cyllyll drwy sicrhau nad yw cyllyll yn cael eu defnyddio gan y bobl anghywir. Yn ogystal â hyn, bydd swyddogion yn ymweld â siopau manwerthu lleol er mwyn cynnal "gwiriad gwybodaeth" gyda staff o ran gwerthu cyllyll a'r ymdriniaeth 'Herio 25 ID'.
Mae rhan fawr o waith y swyddogion allan mewn cymunedau ac ysgolion - yn addysgu pobl ifanc ar yr effeithiau mae cyllyll yn gallu eu cael nid yn unig ar unigolion, ond ar deuluoedd a chymunedau. Mi fydd y gwaith yma yn parhau drwy’r wythnos hefo’r Swyddogion Cymunedol Ysgolion yn ymweld â’r ysgolion.
Ychwanegodd yr Arolygydd Williams: "Rwyf hefyd yn gofyn i rieni, gwarcheidwaid ac aelodau estynedig o'r teulu, i siarad gydag aelodau ifanc o'r teulu am droseddau cyllyll. Gallwch chwarae rôl hanfodol wrth eu hatal rhag bod ynghlwm. Rydym yn eich cynghori i geisio siarad gyda nhw'n agored am y peryglon, ynghyd â'r canlyniadau newid bywyd sy'n deillio o gario cyllell.
"Rydym yn ddiolchgar am y cymorth gan ein partneriaid a chymunedau. Gyda'n gilydd fe wnawn barhau i weithio tuag at ddisodli cyllyll ac arfau peryglus a dod â'r rhai hynny sy'n gyfrifol, wrth eu cario a'u defnyddio, o flaen eu gwell."
Os oes gennych bryderon am rywun rydych yn eu hadnabod neu'n gofalu amdanynt, ac sy'n cario neu'n cuddio cyllell, ffoniwch yr Heddlu ar 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu'r wefan ymgyrch Byw Heb Ofn https://www.fearless.org/en/give-info . Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser.
Amnest cyllyll:
Gellir gwaredu cyllyll diangen mewn biniau gwaredu arbennig sydd wedi'u gosod yn barhaol yng nghownteri blaen y gorsafoedd heddlu canlynol:
Wrecsam
Yr Wyddgrug
Y Rhyl
Llandudno
Bae Colwyn
Bangor
Caernarfon
Caergybi
Mae biniau amnest hefyd ar gau yng Nghanolfannau Ailgylchu Mochdre, Abergele, Dinbych a Rhuthun o dydd Gwener y 12fed o Dachwedd.
Gall defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol ddilyn yr ymgyrch drwy’r hashnod #OpSceptre