Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd sawl arést ac atafaeliadau cyffuriau, arian parod a cherbydau eu gwneud ddoe (dydd Mercher, 21 Gorffennaf) fel rhan o gydweithrediad i fynd i'r afael â chyflenwad cyffuriau Llinellau Cyffuriau.
Gan weithio gyda Thîm MATRIX Heddlu Glannau Mersi, cynhaliodd swyddogion o Dîm Rhwystro Heddlu Gogledd Cymru ddiwrnod o weithredu yn y Rhyl a'r ardaloedd cyfagos gan dargedu trosedd a chyflenwi cyffuriau. Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys yr Uned Plismona'r Ffyrdd gan ddefnyddio beiciau modur oddi ar y ffordd.
Cafodd dyn 23 oed, y credid ei fod wedi bod yn gyrru â phlât adnabod ffug, ei arestio yn Nhywyn yn dilyn cyrch fer.
Ceisiodd osgoi’r ‘ stinger’ a oedd wedi'i osod ar draws y ffordd a diweddodd mewn ffos.
Cafodd ei arestio ar amheuaeth o droseddau niferus gan gynnwys gyrru peryglus, methu â stopio, dwyn cerbyd modur a meddu ar arf treisiol ar ôl i gyllell ‘machete’ gael ei adennill o'r car.
Ers hynny mae wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad tra'n aros am waith ymchwilio pellach.
Cafodd arestiadau eraill eu gwneud gan gynnwys dyn 39 oed o'r Rhyl a gafodd ei arestio ar amheuaeth o fod yn rhan o gyflenwi cyffuriau pan welwyd ei fod yn ymddwyn yn amheus.
Cafodd pedwar dyn eu harestio ar amheuaeth o fod yn rhan o gyflenwi cyffuriau Dosbarth A pan gafodd eu cerbyd ei stopio yn siop Sainsbury's yn y Rhyl. Cafodd swm o arian parod, cardiau SIM a chyffuriau Dosbarth A eu hatafaelu.
Cafodd cyfanswm o saith o bobl eu harestio ar amheuaeth o drosglwyddo cyffuriau – gan gynnwys dyn 31 oed o Fae Cinmel a gafodd ei weld yn gyrru ei fan Transit yn Rhuddlan wrth ddefnyddio ei ffôn. Wedi hynny methodd y prawf cyffuriau ar ochr y ffordd ar ôl profi'n bositif am ganabis. Gan fod yr Uned Cŵn gerllaw, daeth Keo, un o gŵn yr Heddlu i gynorthwyo gyda chwiliad o'i fan, a oedd yn negyddol.
Rhyddhawyd y dyn yn ddiweddarach tra'n aros am ganlyniadau profion pellach.
Gwnaed sawl ataliad arall sy'n gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau ac atafaelwyd pedwar cerbyd – ynghyd ag arian parod, cyffuriau a ffonau symudol a gwnaed dros ddeg chwiliad stopio a chwilio.
Dywedodd Prif Arolygydd Jon Aspinall: "Mae gangiau Llinell Cyffuriau yn paratoi ac yn manteisio ar y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau gan gynnwys plant a phobl ifanc i storio a gwerthu cyffuriau. Maent yn cael eu personoli, eu defnyddio, eu bygwth ac yn aml yn destun trais.
"Nid oes croeso i'r gangiau hyn yng Ngogledd Cymru. Mae ein swyddogion yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i weithio gyda'n heddluoedd cyfagos i fynd ar drywydd troseddwyr a diogelu unigolion a allai fod mewn perygl. Gyda'n gilydd byddwn yn parhau i wneud Gogledd Cymru yn amgylchedd anodd i'r rhai sy'n ceisio cymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol.
"Gan ddefnyddio amrywiaeth o dactegau, mae'r diwrnod gweithredu hwn yn un o nifer yr ydym wedi'u cynllunio ar gyfer y rhanbarth dros yr wythnosau nesaf. Os ydych yn benderfynol o gyflawni troseddau cyffuriau, cofiwch y byddwn yn aros amdanoch."
"Fel arfer, byddwn yn annog unrhyw un sydd â phryderon i roi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru neu fel arall i gysylltu â Crimestoppers yn ddienw."