Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Gwasanaethau Ieuenctid Conwy yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru er mwyn ymgysylltu gyda phobl ifanc ledled y sir.
Mae Gwasanaethau Ieuenctid Conwy yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru er mwyn ymgysylltu gyda phobl ifanc ledled y sir.
Dros y misoedd diwethaf mae gweithwyr Estyn Braich Gwasanaethau Ieuenctid Conwy wedi'u gweld yn rheolaidd o gwmpas parciau a threfi yn sir Conwy, yn creu cysylltiadau a rhoi cymorth i'r bobl ifanc.
Maent wedi bod yn cnocio ar ddrysau gan weld bod pawb yn cadw'n ddiogel.
Eglurodd Rachel Simmonds: "Wrth i ddarpariaeth mynediad agored Ieuenctid Conwy fethu gweithredu oherwydd rheoliadau Covid, edrychodd y tîm ar sut orau i gynorthwyo pobl ifanc yn eu cymunedau."
"Mae'n golygu bod Gweithwyr Ieuenctid allan yn yr ardaloedd yn ymgysylltu a chynorthwyo pobl ifanc."
Mae'r rhaglen estyn braich bresennol wedi'i datblygu gan ymgynghori â Heddlu Gogledd Cymru, gan rannu gwybodaeth i gynorthwyo pobl ifanc yn adeiladol.
"Nid ydym yno i blismona ond i gynorthwyo. Er enghraifft codwyd pryderon gan SCCH mewn un ardal bod grŵp o bobl ifanc yn mynd i adeiladau gwag. Felly gwnaethom ddechrau siarad â phobl ifanc yn yr ardal ynghylch peryglon mynd i'r adeiladau hyn."
"Mewn cyfnodau anodd mae'r gweithwyr estyn braich yn wynebau cyfarwydd. Maent yn bobl y gall pobl ifanc ymddiried ynddynt, gwneud cysylltiad â nhw a thrafod sut mae eu diwrnod wedi mynd yn aml."
Eglurodd SCCH Gethin Chapman: "O safbwynt Heddlu Gogledd Cymru, rydym wedi cael perthynas dda gyda Gwasanaethau Ieuenctid Conwy. Aethom i gwrdd â phobl yn ddiweddar gyda nhw er mwyn amlygu'r ardaloedd sy'n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Gwasanaethau Ieuenctid Conwy wedi targedu'r ardaloedd hyn ac wedi ymgysylltu gyda'r bobl ifanc."
Dywedodd Sian Pierce, Gweithiwr Ieuenctid Ardal Dwyrain Conwy, sydd hefyd yn Gynorthwywr Cyntaf iechyd meddwl cymwys: "Mae'n ddirdynnol i bawb, ond weithiau mae pobl ifanc ond angen rhywun i rannu eu pryderon â nhw. Mae ynghylch deall y darlun mwy."
"Felly mae llawer o sgyrsiau'n dod o sgwrs syml yn y parc. Os yw pobl yn cael trafferthion yna gallwn drefnu atgyfeiriad a phontio hyd nes bydd cymorth priodol ar gael."
Ychwanegodd SCCH Chapman: "Rŵan bod cyfyngiadau'n cael eu llacio yn dilyn y cyfyngiadau symud, rydym yn cysylltu gyda Gwasanaethau Ieuenctid Conwy ac yng nghyfnod cynnar prosiect ar y cyd i ymdrin ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yng nghanol tref Bae Colwyn."
Wrth drafod estyn braich gyda'r nosau, y neges gan Weithwyr Ieuenctid i bobl ifanc yw cadw pellter a'u hannog nhw i feddwl am effaith eu gweithrediadau. Mae hyn hefyd yn wir am anfon negeseuon drwy'r cyfryngau cymdeithasol.
Mae'r tîm hefyd yn cyhoeddi gweithgareddau a chyngor ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Gwasanaethau Ieuenctid Conwy.
Twitter and Instagram @GIConwyYS