Gwyddom fod dioddef lladrad yn achosi straen ac yn peri gofid, felly byddwn yn eich cefnogi yn y ffyrdd canlynol:
- os ydych wedi dioddef trosedd, byddwn yn ymweld â chi a'ch cymdogion ac yn eich cefnogi gymaint ag y gallwn
- byddwn yn dangos i chi sut i farcio eich eiddo gyda thechnoleg fforensig anweledig SmartWaterTech, y byddwn ni yn ei darparu
- byddwn yn dosbarthu pecynnau diogelwch i'ch cymdogion, ac yn eu hannog i ddiogelu eu heiddo gyda marcwyr fforensig y gallent eu prynu am bris gostyngol
- byddwn yn eich cynghori chi a'ch cymdogion ar y ffyrdd gorau o gadw eich eiddo'n ddiogel
- byddwn yn rhoi arwyddion i chi a'ch cymdogion i’w harddangos, sy’n datgan bod eich eiddo wedi'i ddiogelu.
Pam?
- mae troseddwyr yn tueddu i ddychwelyd i eiddo neu ardal y maen nhw eisoes wedi bod ynddi, a lle maen nhw eisoes wedi cyflawni trosedd: nid ydym eisiau i hynny ddigwydd i chi
- mae'n llai tebygol, serch hynny, y bydd troseddwyr yn targedu eiddo sydd ag arwyddion sy'n dangos ei fod wedi'i ddiogelu
- mae hefyd yn llai tebygol y bydd troseddwyr yn targedu eiddo sydd wedi'i ddiogelu'n dda gyda chloeon drysau a ffenestri, a lle mae beiciau ac eiddo arall o'r golwg yn ddiogel
- mae marcio fforensig ac UV yn ei gwneud yn haws i'r heddlu gysylltu troseddwyr â throsedd benodol a sicrhau euogfarn – ac i ddychwelyd eich eiddo i chi, y gwir berchennog
- bydd y camau hyn yn helpu i annog troseddwyr i beidio â thargedu cymdogaethau, ac yn gwneud ein cymunedau'n fwy diogel.
Hefyd, dyma rai awgrymiadau syml i helpu i ddiogelu eich eiddo:
- cloi pob drws a chau pob ffenestr cyn gadael y tŷ
- cloi drysau blaen a chefn, hyd yn oed pan fyddwch yn y tŷ ac yn enwedig dros nos
- sicrhau bod eitemau gwerthfawr yn cael eu cadw o’r golwg
- storio allweddi ceir yn ddiogel i ffwrdd o flychau llythyrau (er enghraifft lle gallai lladron estyn drwyddo a'u dwyn)
- cloi gatiau gardd a mynedfeydd ochr y tŷ
- gwnewch yn siŵr nad yw eitemau y gallai lleidr eu defnyddio i dorri i mewn i'ch cartref yn cael eu gadael y tu allan
- storio biniau olwynion yn ddiogel ac i ffwrdd o waliau neu ffensys lle gallai rhywun eu defnyddio i gael mynediad i'ch eiddo
- marcio eich eiddo gyda phen UV neu dechnoleg marcio eiddo fforensig fel SmartWater
- gwnewch yn siŵr bod eich cartref yn ymddangos yn brysur; mae cartref gwag yn llawer mwy o demtasiwn i leidr. Defnyddiwch switshis wedi’u hamseru ar gyfer goleuadau a sŵn radio
- ystyriwch osod larwm lladron a goleuadau diogelwch y tu allan, gan fod y rhain yn cadw byrgleriaid draw
- byddwch yn wyliadwrus: rhowch wybod i'r heddlu am unrhyw weithgarwch, pobl neu gerbydau anarferol yn eich ardal.
Os oes gennych chi gwestiwn am Dangos y Drws i Drosedd neu drosedd meddiangar yng Ngogledd Cymru:
Anfonwch e-bost atom
Os ydych eisiau cysylltu â ni am fater arall neu er mwyn hysbysu am drosedd, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth sgwrs fyw, neu ffonio 101. Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.