Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'n ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus ddarparu cynllun cyhoeddi. Y Cynllun Cyhoeddi yw ein ffordd ni o wneud yn siŵr bod gwybodaeth sy'n ymwneud â chategorïau penodol, a elwir yn 'dosbarthiadau gwybodaeth', yn cael ei chyhoeddi fel mater o drefn.
Yn ogystal â'r wybodaeth sy'n dod o dan y categorïau hyn, mae'r cynllun hefyd yn cynnwys gwybodaeth yr ydym wedi'i datgelu mewn ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth isod am sut mae'r Cynllun Cyhoeddi yn gweithio a sut i weld y wybodaeth yr ydym wedi'i chyhoeddi.
Diben y Cynllun Cyhoeddi yw rhoi gwybod i chi pa wybodaeth sydd ar gael yn rhwydd amdanom ni a'i gwneud yn hawdd cael gafael arni.
Mae'r Cynllun yn caniatáu i ni wneud dau beth hollbwysig:
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i'r Cynllun Cyhoeddi wneud y canlynol:
Fel mater o drefn rydym yn cyhoeddi symiau mawr o wybodaeth yma ar ein gwefan, gyda'r rhan fwyaf ohoni ar gael i’w lawrlwytho ar unwaith. Weithiau ni fydd y wybodaeth a restrir ar gael ar ffurf electronig. Mewn achosion o’r fath ein nod yw darparu’r wybodaeth hon o fewn pum diwrnod gwaith i dderbyn eich cais.
Gallwch weld y wybodaeth yn y Cynllun Cyhoeddi yn y ffyrdd canlynol:
Ewch i'n tudalen eitemau sydd wedi'u cyhoeddi i archwilio'r holl wybodaeth sydd wedi'i chyhoeddi a datgeliadau i geisiadau rhyddid gwybodaeth gan aelodau’r cyhoedd. Yma gallwch chwilio am erthyglau yn ôl allweddeiriau neu drwy hidlo canlyniadau yn ôl dosbarthiad y wybodaeth.
Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani, gallwch hefyd wneud cais rhyddid gwybodaeth gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein syml.
Gallwch wneud cais am gopïau o wybodaeth sydd wedi'i chyhoeddi gan ddefnyddio'r manylion isod.
Ysgrifennwch at:
Yr Uned Rhyddid Gwybodaeth
Gwasanaethau Corfforaethol
Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru
Glan-y-Don
Bae Colwyn
Conwy
LL29 8AW
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyhoeddi gwybodaeth o dan benawdau penodol, a elwir yn ‘ddosbarthiadau’. Dim ond gwybodaeth sy’n bodloni diffiniadau a disgrifiadau’r Ddeddf sy’n cael ei gosod yn y dosbarthiadau.
Gweld beth yw’r dosbarthiadau gwybodaeth a chael mynediad at wybodaeth a gyhoeddir o dan bob un.
Mae’r deunydd sydd ar gael drwy’r cynllun yn ddarostyngedig i naill ai ein hawlfraint ni neu hawlfraint trydydd parti.
Os yw’r deunydd yn ddarostyngedig i’n hawlfraint ni, gallwch atgynhyrchu unrhyw ran ohono am ddim ac mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, cyn belled ei fod yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn modd camarweiniol. Pan fo unrhyw rai o’r eitemau sydd â hawlfraint yn y Cynllun Cyhoeddi yn cael eu hail-gyhoeddi neu eu copïo i bobl eraill, rhaid i chi nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod statws yr hawlfraint.
A fyddech cystal â nodi bod ein logo wedi’i gofrestru gyda’r Swyddfa Batent fel nod masnach ac na ddylid ei atgynhyrchu neu ei ddefnyddio heb ein caniatâd ni ymlaen llaw.
Os yw’r deunydd yn ddarostyngedig i hawlfraint trydydd parti, rhaid i chi gael caniatâd i atgynhyrchu deunydd o’r fath gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.
Ni ddylai deunydd a roddir ar gael drwy’r Cynllun Cyhoeddi gael ei atgynhyrchu, ei gopïo neu ei ddefnyddio mewn modd arall at unrhyw ddibenion masnachol. Codir taliadau lle bwriedir i ddeunydd gael ei ddefnyddio ar gyfer ei gyhoeddi’n fasnachol.