Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gorchymyn sifil yw Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol (SVRO) y gellir ei roi ar rywun sydd wedi’i gael yn euog o drosedd sy’n ymwneud ag eitem â llafn neu arf bygythiol.
Gall yr heddlu stopio rhywun sydd â SVRO mewn mannau cyhoeddus a’i chwilio i weld a yw’n cario eitem â llafn neu arf bygythiol.
Gall yr heddlu ofyn i lys ganiatáu SVRO. Mae angen iddynt ddarparu tystiolaeth i'r llys sy’n egluro pam fod angen gorchymyn.
Cyhoeddir SVROs am gyfnod penodol. Bydd y llys yn penderfynu am ba hyd, ond cânt eu rhoi am isafswm o chwe mis ac uchafswm o ddwy flynedd.
Os bydd rhywun yn cael ei stopio’n gyhoeddus gan yr heddlu fel y gellir ei chwilio, bydd y swyddog yn gofyn iddo ef neu hi gadarnhau pwy ydyw ac a oes ganddo/ganddi SVRO.
Os oes gennych SVRO mae angen i chi ddweud wrth y swyddog. Mae peidio â dweud wrth y swyddog yn drosedd.
Mae SVRO yn berthnasol i berson yn unig ac nid i gerbyd, nid yw chwaith yn berthnasol i unrhyw un sydd gyda'r person sydd â'r SVRO.
Rhaid recordio Stopio a Chwilio SVRO ar gamera corff y swyddog.
Bydd y swyddog yn cofnodi:
Dysgu rhagor am yr hyn sy'n digwydd yn ystod achos o Stopio a Chwilio.
Gall rhywun sydd â SVRO gyflawni trosedd os ydynt yn:
Mae torri SVRO yn drosedd ac yn golygu y gallwch gael eich arestio.
Mae cosbau penodol ar gyfer torri amodau ac os ailadroddir troseddau’n yn ymwneud ag eitem â llafn neu arf bygythiol gallai fod yn ddedfryd o garchar.