Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r Gofrestr Troseddwyr Rhyw yn cofnodi manylion y bobl a gafodd eu dyfarnu’n euog, sydd wedi cael rhybuddiad neu sydd yn y carchar am drosedd rywiol ers 1997.
Mae diffiniad o drosedd rywiol yn cynnwys ystod eang o droseddau o voyeuriaeth i dreisio.
Mae pob oedolyn sy’n cael ei ddyfarnu’n euog, ei rybuddio neu’n cael ei garcharu am drosedd rywiol yn erbyn plentyn yn cael ei roi ar y gofrestr. Fel arall, mae’r math o drosedd a’r ddedfryd yn pennu os bydd rhaid mynd ar y rhestr.
Mae’n rhaid i droseddwyr rhyw gofrestru gyda ni yn bersonol, o fewn tri diwrnod o gael eu cyhuddo, eu dedfrydu, ar ôl cael rhybuddiad neu ar ôl cael eu rhyddhau o’r carchar am drosedd rywiol.
Mae’n rhaid iddyn nhw ddangos llun a rhoi’r manylion canlynol i ni:
Mae’n rhaid iddyn nhw roi gwybod i ni hefyd os ydyn nhw:
Mae’n rhaid i droseddwyr ddweud wrthym os bydd unrhyw un o’r manylion hyn yn newid, cyn pen tri diwrnod o’r newid.
Os nad oes unrhyw newidiadau, mae’n rhaid iddyn nhw ail gofrestru bob blwyddyn.
Os nad oes gan droseddwr gyfeiriad parhaol, mae’n rhaid iddyn nhw fynd i orsaf yr heddlu bob saith diwrnod i roi gwybod i ni lle gallwn ddod o hyd iddyn nhw.
Byddwn yn ymweld â throseddwyr yn y cartref i asesu risg a gwneud yn siŵr eu bod yn cofrestru ac yn rhoi manylion i ni pan fo angen hynny.
Mae gennym y pŵer i gymryd lluniau ac olion bysedd troseddwr.
Mae Troseddwyr Rhyw Cofrestredig yn cael eu rheoli yn y gymuned gan heddlu arbenigol a swyddogion prawf.
Caiff y swyddogion hyn gymorth gan sefydliadau eraill gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, adrannau tai y cyngor, Llu’r Ffiniau, yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac arbenigwyr iechyd meddwl.
Mae troseddwyr rhyw yn aml yn cael eu rhyddhau o’r carchar ‘ar drwydded’. Mae hyn yn golygu bod ganddyn nhw reolau penodol y mae’n rhaid eu dilyn, a gallai methu â’u dilyn olygu y byddai’n rhaid dychwelyd i’r carchar.
Gallwn hefyd wneud cais am Orchmynion Atal Niwed Rhywiol (SHPO) ar gyfer y canlynol:
Os ydy rhywun yn torri rheolau eu Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol gallan nhw gael eu herlyn mewn llys.
Mae hyn yn dibynnu ar hyd y ddedfryd ar gyfer eu trosedd.
Os cawson nhw eu dedfrydu i garchar am 30 mis neu fwy maen nhw’n aros ar y gofrestr am gyfnod amhenodol.
Mae pobl sydd wedi cael rhybuddiad (heb gael eu dyfarnu’n euog) am drais rywiol yn aros ar y gofrestr am 2 flynedd.
Mae Cynllun Datgelu Troseddwr Rhyw â Phlant (CSODS) yn caniatáu i chi ofyn i’r heddlu’n ffurfiol os oes rhywun sydd â chyswllt un i un â phlentyn:
Nid yw’n gyfraith ond mae weithiau’n cael ei alw’n ‘Cyfraith Sarah’.
Os ydych chi’n meddwl bod troseddwr rhyw yn torri rheolau eu trwydded neu eu Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol, rhowch wybod i ni. Gallai eich gwybodaeth ein helpu ni i amddiffyn oedolion neu blant agored i niwed.
Os ydych chi’n amau bod rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 nawr. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMS Brys.
Os nad yw’n argyfwng, gallwch: