Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gwelwyd achlysuron pan fo twyllwyr yn esgus bod yn swyddogion heddlu, yn bersonol a thros y ffôn, er mwyn twyllo pobl i roi gwybodaeth bersonol iddynt dwyn eu harian.
Os nad ydych yn siŵr a yw’r person yr ydych yn delio ag ef yn swyddog heddlu dilys – arhoswch – a ffoniwch ni ar 101 er mwyn gwirio pwy ydyw.
Sylwer, os ydych wedi bod ar y ffôn gyda rhywun - a wnaeth eich ffonio chi - ond bod gennych amheuon yn ei gylch, rydym yn argymell eich bod yn rhoi’r ffôn i lawr ac yn aros am bum munud cyn ein ffonio ni. Fe fu achosion pan fo twyllwyr wedi cadw’r llinell ar agor wedi i’r dioddefwr orffen yr alwad. Mae gadael nifer o funudau rhwng galwadau yn gwneud yn siŵr bod yr alwad wedi’i chau.
Bydd sut mae’n swyddogion yn cysylltu â chi yn dibynnu ar sut rydych chi wedi gofyn inni wneud hynny a'r amgylchiadau ynglŷn a pham maen nhw’n cysylltu â chi.
At ddibenion ymchwiliad, fe allen ni gysylltu â chi:
yn bersonol
dros y ffôn
drwy ebost
drwy SMS
Sut bynnag y bydd swyddogion yn cysylltu â chi, fe fyddan nhw’n dangos yn glir mai swyddogion ydyn nhw, ac yn egluro pam maen nhw’n cysylltu â chi.
Os bydd un o’n swyddogion yn cysylltu â chi’n bersonol, bydd yn dangos ei gerdyn gwarant heddlu i chi. Mae hyn yn profi pwy ydyw a’i awdurdod.
Os bydd angen i un o’n swyddogion siarad â chi dros y ffôn, bydd yn dweud yn glir pwy ydyw. Ni fydd yn gwneud y canlynol:
Os bydd un o’n swyddogion yn cysylltu â chi drwy ebost, ni fydd byth yn gwneud y canlynol:
Cofiwch os nad ydych chi’n siŵr a yw’r person yr ydych yn delio ag ef yn swyddog heddlu dilys – arhoswch – a ffoniwch ni ar 101 er mwyn gwirio pwy ydyw.
Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi dioddef twyll, riportiwch hynny wrth Action Fraud naill ai ar-lein neu dros y ffôn: 0300 123 2040.