Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os oes gennych chi neu rywun arall anaf neu symptomau rydych chi’n poeni amdanyn nhw, ffoniwch 111 i gael cyngor meddygol brys neu ewch i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys mewn ysbyty.
Bydd y gwasanaeth hwn yn eich helpu i riportio troseddau sbeicio, gan gynnwys sbeicio diodydd, sbeicio â nodwydd, sbeicio bwyd, sbeicio e-sigaréts, neu ymgais i sbeicio.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i riportio troseddau a ddigwyddodd o ganlyniad i sbeicio, fel ymosodiad rhywiol, lladrad neu droseddau treisgar.
Defnyddiwch y botwm 'Allanfa gyflym' os oes angen. Bydd yn cau'r safle hwn ac yn agor peiriant chwilio Google. Ni fydd eich ffurflen yn cael ei chadw ac ni fydd yn cael ei hanfon atom.
Riportio sbeicio neu ymgais i sbeicio sydd newydd ddigwydd
Gallwch ddweud wrthym am sbeicio neu ymgais i sbeicio drwy lenwi’r ffurflen hon ar-lein. Mae unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei hanfon atom ar y ffurflen yn ddiogel.
Byddwn yn gofyn am y canlynol:
Efallai na fyddwch yn gwybod neu'n cofio’r manylion i gyd. Mae hynny’n iawn, dim ond i chi ddweud popeth y gallwch chi.
P’un a ydych chi’n riportio ar-lein neu’n siarad â swyddog yn uniongyrchol bydd ein hystafell reoli yn delio â’ch adroddiad yr un modd yn union.
Os ydych chi wedi dweud y gallwn ni gysylltu â chi, byddwn yn dod yn ôl atoch o fewn pedair awr fan bellaf, neu ar adeg rydych chi wedi gofyn i ni wneud hynny.
Gallwch riportio yn ddienw. Efallai na fydd modd i ni ymchwilio'n llawn i’r digwyddiad os na fyddwch yn rhoi eich manylion i ni.
Gallwch roi eich manylion i ni yn nes ymlaen os byddwch yn newid eich meddwl.
Os na fyddwch yn rhoi eich manylion i ni, fyddwn ni ddim yn ceisio cysylltu â chi oni bai ein bod yn credu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl.
Os nad ydych chi eisiau cymorth gennym, gofynnwch am gymorth ar gyfer sbeicio gan un o’r sefydliadau cymorth (mae’n agor mewn ffenestr newydd fel bod modd i chi ddychwelyd at y ffurflen hon).
Amser i’w llenwi ar gyfartaledd: 20 i 30 munud.
Rhaid i chi gwblhau pob cam ar y ffurflen o fewn dwy awr.
Cliciwch ‘Dechrau’ pan fyddwch yn barod.
Dechrau