Riportio digwyddiad traffig ar y ffordd
Os ydych chi wedi bod yn rhan mewn gwrthdrawiad ar y ffordd, neu’n credu eich bod efallai’n dyst i drosedd ar y ffordd, gallwch ganfod sut i riportio hyn gan ddefnyddio ein hofferyn ar-lein syml. Atebwch y cwestiynau cyflym isod er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r cyngor iawn i chi ac yn casglu’r holl fanylion perthnasol.
Offeryn cyngor
Riportio trosedd traffig bosibl gyda thystiolaeth fideo
Diolch.
Rydym yn defnyddio gwasanaeth o’r enw Op Snap i gasglu ffilmiau a lluniau o droseddau.
Pan fyddwch yn clicio’r botwm ‘Mynd’ isod eir â chi i’r wefan honno er mwyn llenwi ffurflen ac uwchlwytho eich tystiolaeth.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
- dyddiad ac amser y digwyddiad
- lleoliad y digwyddiad
- rhif cofrestru’r cerbyd
- ffilm neu luniau o’r drosedd yn cael ei chyflawni
- manylion beth ddigwyddodd a beth oedd eich cysylltiad chi
Cyfartaledd amser cwblhau: deg munud