Riportio digwyddiad traffig ar y ffordd
Os ydych chi wedi bod yn rhan mewn gwrthdrawiad ar y ffordd, neu’n credu eich bod efallai’n dyst i drosedd ar y ffordd, gallwch ganfod sut i riportio hyn gan ddefnyddio ein hofferyn ar-lein syml. Atebwch y cwestiynau cyflym isod er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r cyngor iawn i chi ac yn casglu’r holl fanylion perthnasol.
Offeryn cyngor
Riportio gwrthdrawiad traffig ffyrdd gyda thyst annibynnol
Diolch am gysylltu.
Os oeddech chi’n rhan o wrthdrawiad fel gyrrwr neu reidiwr, yn y rhan fwyaf o amgychiadau mae’n ofyniad cyfreithol i chi stopio a chyfnewid manylion.
Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny am ba bynnag reswm, rhaid i chi riportio’r ddamwain cyn gynted â phosibl ac, mewn unrhyw achos, o fewn 24 awr i’r gwrthdrawiad.
Gweler Adran 170 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 am ragor o fanylion.
Gallwch ei riportio:
- ar-lein – cliciwch ‘Cychwyn’ isod i ddechrau
- yn eich gorsaf heddlu leol
- drwy ddweud wrth gwnstabl yr heddlu
Cliciwch ‘Cychwyn’ isod i lenwi ein ffurflen syml ar-lein. Rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch am y digwyddiad. Fe fyddwn ni’n ceisio llenwi’r bylchau lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
Cyfartaledd amser cwblhau: 20 munud
Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol gennych os yn bosibl:
- dyddiad ac amser y gwrthdrawiad
- rhif cofrestru a gwneuthuriad eich cerbyd
- manylion cyswllt y person arall, neu’r bobl eraill, oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad
- manylion cyswllt unrhyw dystion i’r gwrthdrawiad
Sylwch: Os gwnaethoch chi gyflwyno adroddiad digwyddiad traffig ffyrdd ar y wefan hon, byddwch yn gallu lawrlwytho copi o'ch adroddiad ar ôl ichi ei gyflwyno. Adroddiad gwrthdrawiad yw'r adroddiad hwnnw. Yna gallwch anfon yr adroddiad at eich cwmni yswiriant neu’ch cyfreithiwr.
Cychwyn