Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiad traffig ffyrdd, neu'n credu y gallech fod wedi bod yn dyst i drosedd ar y ffyrdd, dysgwch sut i riportio’r peth drwy ddefnyddio’n hadnodd ar-lein syml. Atebwch y cwestiynau cyflym isod i sicrhau ein bod yn rhoi'r cyngor cywir ichi ac yn casglu'r holl fanylion perthnasol.
Riportio digwyddiad lle na chafodd neb eu hanafu a lle na chafodd unrhyw fanylion eu cyfnewid
Diolch. Os oeddech yn gysylltiedig â digwyddiad fel gyrrwr neu feiciwr, mae’n rhaid i chi riportio’r digwyddiad yn bersonol i’r heddlu cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl ac, mewn unrhyw achos, o fewn 24 awr i’r digwyddiad. Ni all unrhyw un arall wneud hyn i chi.
Gweler y Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988, Adran 170 am fanylion pellach.
Rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch am y digwyddiad.
Gallwch ei riportio:
Gwnewch yn siŵr bod y manylion canlynol ar gael, os yn bosibl:
Tystion annibynnol
Rhaid i dyst annibynnol fod yn berson sydd wedi gweld y digwyddiad ond sydd heb gysylltiad o gwbl â'r digwyddiad neu unrhyw un sy'n gysylltiedig â’r digwyddiad.
Canllawiau ar dystiolaeth
I gael ei derbyn yn y llys, mae’n rhaid i dystiolaeth:
Gellir rhannu lluniau fideo gyda'r partïon eraill sy'n gysylltiedig.
Mae'n fwy tebygol y byddwn yn gallu cymryd camau os yw rhif cofrestru'r cerbyd(au) sydd wedi troseddu yn weladwy yn y dystiolaeth.
Sylwer: os yw eich tystiolaeth yn eich dangos chi’n cyflawni trosedd, yn ogystal â'r troseddwr, efallai y cewch chi eich erlyn hefyd.
Byddwn yn adolygu beth rydych wedi'i anfon atom ac yn asesu os gallwn gymryd unrhyw gamau.
Os na fyddwn wedi cysylltu â chi o fewn chwe wythnos, ni fyddwn yn gallu cymryd unrhyw gamau.
Ar ôl i chi gyflwyno adroddiad ar y wefan hon, byddwch yn gallu lawrlwytho copi ohono. Dyma fydd yr adroddiad gwrthdrawiad. Byddwch yn gallu anfon yr adroddiad hwnnw at eich cwmni yswiriant neu gyfreithiwr.
Amser cwblhau ar gyfartaledd: 20 munud.
Pan fyddwch chi'n barod, cliciwch 'Dechrau' i gychwyn.
Dechrau