Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd y gwasanaeth hwn yn eich helpu i riportio treisio ac ymosod rhywiol, a throseddau rhywiol eraill fel dinoethi anweddus ac uwchsbecian. Gallwch riportio aflonyddu rhywiol drwy ddefnyddio'r gwasanaeth hwn hefyd.
Yn gyntaf, byddwn yn gofyn rhai cwestiynau ichi i sicrhau mai riportio ar-lein yw’r cam cywir i chi, ac er mwyn inni roi'r ffurflen gywir ichi i’w llenwi.
Wedyn byddwch yn llenwi’r adroddiad ei hun.
Bydd hyn yn cymryd rhyw 20 i 30 o funudau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ddiogel i gymryd yr amser hwnnw.
Ni fyddwn yn eich barnu, byddwn yn eich trin â pharch, a byddwn bob amser yn rhoi eich iechyd a'ch lles chi yn gyntaf.
Gallwch riportio rhywbeth sydd wedi digwydd i chi, neu i rywun arall. Gallwch riportio’n ddienw, heb roi eich manylion inni.
Defnyddiwch y botwm 'Allanfa gyflym' os oes angen. Bydd hwnnw’n cau'r wefan hon ac yn agor peiriant chwilio Google. Ni fydd eich ffurflen yn cael ei chadw ac ni fydd hi’n cael ei hanfon atom.
Riportio troseddau rhywiol eraill i Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar ran rhywun arall
Os nad yw'n argyfwng, gallwch riportio troseddau rhywiol, gan gynnwys fflachio, dinoethi anweddus, uwchsbecian, aflonyddu rhywiol, sbecian neu bornograffi dial inni ar-lein.
Gallwch riportio ar ran rhywun arall os ydych yn ffrind neu'n aelod o'r teulu, neu os ydych chi o asiantaeth gymorth mae'r dioddefwr wedi gofyn iddi am help.
Byddwn yn gofyn a ydych chi wedi cael caniatâd y dioddefwr i riportio’r peth i’r heddlu, ac a gawn ni gysylltu â nhw.
Byddwn yn gofyn am y canlynol:
Efallai na fyddwch yn gwybod neu na fydd y dioddefwr yn cofio’r manylion i gyd. Mae hynny'n iawn. Dywedwch beth allwch chi.
Bydd tîm ein hystafell reoli yn ymdrin â’ch adroddiad yn yr un ffordd yn union p’un a fyddwch chi’n riportio ar-lein neu’n ffonio 101.
Os dywedwch ein bod ni’n cael cysylltu â chi, bydd swyddog yn gwneud hynny o fewn 24 awr fan bellaf, neu ar yr amser rydych chi wedi gofyn inni wneud.
Mae adroddiadau dienw yn ddefnyddiol inni ond os na fyddwch yn rhoi manylion cyswllt inni, efallai na fyddwn yn gallu ymchwilio'n llawn i'r digwyddiad.
Gallwch roi’ch manylion inni yn nes ymlaen os byddwch yn newid eich meddwl.
Os na fyddwch chi’n rhoi’ch manylion inni, dim ond os ydyn ni’n credu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl y byddwn yn ceisio cysylltu â chi.
Amser cwblhau ar gyfartaledd: 20 i 30 munud.
Rhaid i chi lenwi pob cam o'r ffurflen o fewn dwy awr.
Pan fyddwch chi’n barod, cliciwch ar 'Dechrau' i ddechrau.
Dechrau