Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydyn ni’n gwybod y gall fod yn anodd riportio treisio neu ymosodiad rhywiol. Rydyn ni’n deall bod llawer o resymau y mae pobl yn dewis peidio â’u riportio, a'ch dewis chi yw hi bob amser.
Os nad ydych chi’n siŵr beth i'w wneud, gallai'r wybodaeth ar y dudalen hon eich helpu i benderfynu ai riportio yw’r cam cywir i chi. Rydyn ni yma i chi a byddwn yn gofalu amdanoch beth bynnag y byddwch yn penderfynu ei wneud.
Ac os ydych chi’n barod, dyma sut i riportio treisio ac ymosodiadau rhywiol.
Os penderfynwch chi riportio’r peth inni, fyddwn ni ddim yn eich barnu ar sail unrhyw un o'r mythau cyffredin ynghylch treisio.
Does dim ots pwy ydych chi na beth sydd wedi digwydd ichi, mae gennych chi’r un hawl i gael eich clywed ac i gael cyfiawnder â phawb arall.
Gallwch riportio treisio neu ymosodiad rhywiol ni waeth pa mor hir yn ôl y digwyddodd. Does dim terfyn amser a does dim ots os na allwch chi gofio'r holl fanylion.
Efallai na fydd yr un o'r rhain yn gymwys i chi. Mae pob penderfyniad i riportio neu beidio yn bersonol. Ond dyma rai rhesymau mae pobl yn dweud eu bod wedi penderfynu riportio treisio ac ymosodiadau rhywiol.
Mae gennych chi hawl i gael eich trin â pharch ac urddas bob amser. Ond rydyn ni’n gwybod y gall eich profiad weithiau deimlo'n annheg, yn ansensitif neu'n waeth.
Os bydd hyn yn digwydd i chi, rydyn ni am eich cefnogi a gwneud pethau'n well. Os na allwn ni, rydyn ni am ei gwneud hi mor hawdd â phosibl ichi ein dwyn i gyfrif.
Os ydych chi’n anfodlon ar ein penderfyniad i beidio â chyhuddo rhywun neu drosglwyddo’ch achos i Wasanaeth Erlyn y Goron, efallai y gallech ddefnyddio cynllun Hawl Dioddefwr i Adolygiad (VRR).
Os ydych chi'n anfodlon ar unrhyw beth arall ynglŷn â’r ffordd rydyn ni wedi'ch trin chi, fe allwch chi:
Ni waeth beth fo’ch statws mewnfudo, os byddwch yn riportio treisio, ymosodiad rhywiol neu drosedd arall inni, byddwn yn eich trin fel goroeswr a dioddefwr trosedd yn gyntaf.
Ond, os cawn ni wybod yn ystod ymchwiliad y gallech fod yn y wlad yn anghyfreithlon, efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth â’r adran Gorfodi Mewnfudo, a fydd yn penderfynu beth i'w wneud.
Gall hyn beri pryder, ond rydyn ni’n credu ei bod yn bwysig dweud wrthoch chi am y posibilrwydd, er mwyn ichi allu gwneud dewis gwybodus am beth i'w wneud.
Os ydych chi’n poeni am hyn, mae yna wasanaethau cymorth a all ddweud wrthoch chi am eich hawliau a'ch helpu i benderfynu beth i'w wneud.
Sefydliad i fenywod sy'n ymroi i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched o gymunedau du a lleiafrifol.
Mae’r sefydliadau sy’n aelodau o Imkaan yn cynnig cymorth arbenigol.
Cymorth i oroeswyr gwrywaidd o dras Asiaidd, Affricanaidd ac Affricanaidd-Garibïaidd.
Os hoffech chi drafod eich penderfyniad cyn riportio trosedd i ni, neu os hoffech chi ei riportio iddyn nhw yn lle riportio i ni, gallwch gysylltu â Chanolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) neu sefydliad arall i drafod hyn yn gyfrinachol.