Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn y gyfraith, mae’r geiriau 'treisio' ac 'ymosodiad rhywiol' yn cael eu defnyddio i olygu troseddau penodol.
Efallai na fydd yr ystyron cyfreithiol hyn yn cyfateb i'r ffordd rydych chi'n defnyddio'r geiriau eich hun.
Y diffiniad cyfreithiol o dreisio yw pan fydd rhywun yn rhoi ei bidyn yng ngwain, anws neu geg person arall, heb ganiatâd y person.
Ymosod drwy dreiddio yw pan fydd rhywun yn rhoi gwrthrych neu unrhyw ran o'r corff heblaw’r pidyn (er enghraifft bysedd) i mewn i wain neu anws person arall, heb ganiatâd y person.
Ymosodiad rhywiol yw pan fydd rhywun yn cyffwrdd â chi’n rhywiol heb eich caniatâd, gyda gwrthrych neu ran o'r corff.
Mae'r diffiniad cyfreithiol o 'rywiol yn dibynnu ar a fyddai 'person rhesymol' o’r farn bod rhywbeth yn rhywiol.
Mae hefyd yn drosedd os bydd rhywun yn eich cael chi i wneud neu weld rhywbeth rhywiol heb eich caniatâd.
Mae cydsyniad yn golygu bod pawb yn cytuno i'r hyn sy'n digwydd drwy ddewis, a bod ganddyn nhw’r rhyddid a'r gallu i wneud y dewis hwnnw a’i newid. Treisio yw rhyw heb gydsyniad.
Mae yna lawer o fythau cyffredin ynghylch cydsyniad, treisio ac ymosod rhywiol a allai atal pobl rhag sicrhau’r cymorth angenrheidiol neu riportio’r peth.
Er enghraifft, does dim rhaid bod treisio ac ymosodiadau rhywiol yn cynnwys trais corfforol na grym, achosi anaf corfforol neu adael marciau gweladwy.
Dydyn ni ddim yn credu'r mythau hyn a fyddwn ni ddim yn eich amau chi o’u hachos nhw.
Mae troseddau rhywiol eraill y gallwch eu riportio i ni yn cynnwys: