Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r dudalen hon yn sôn am beth sy'n digwydd os byddwch yn riportio treisio neu ymosodiad rhywiol i’r heddlu. Bydd rhai pethau yn y broses yn wahanol os byddwch yn riportio i rywun arall fel gwasanaeth cymorth treisio ac ymosodiadau rhywiol.
Os byddwch yn riportio i ni ar-lein, bydd eich atebion yn cael eu hanfon i'n hystafell reoli ac yn cael eu trin yn yr un ffordd â phe baech chi wedi’n ffonio ni.
Os dywedoch chi wrthym ein bod ni’n cael cysylltu â chi, bydd swyddog yn gwneud hynny er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel ac i ofyn rhagor o gwestiynau i chi.
Os byddwch yn riportio rhywbeth inni'n ddienw (heb roi eich manylion inni), dim ond os ydyn ni’n credu eich bod chi neu rywun arall mewn perygl y byddwn yn ceisio cysylltu â chi.
Os ydych yn gyffyrddus yn siarad am yr hyn a ddigwyddodd, byddwn yn gofyn ichi fynd dros bedwar prif beth:
Efallai eich bod eisoes wedi dweud wrthym am rai o'r rhain wrth ichi riportio’r peth y tro cyntaf. Rydyn ni’n sylweddoli y gall fod yn anodd dweud wrthym am yr un digwyddiadau fwy nag unwaith. Ond mae hyn yn rhan arferol o'r broses, ac nid yw'n golygu nad oedden ni’n eich credu chi y tro cyntaf.
Mae’n bolisi gennyn ni eich credu pryd bynnag y byddwch yn riportio trosedd inni. Fyddwn ni ddim yn eich barnu nac yn eich amau chi ar sail unrhyw un o'r mythau cyffredin am dreisio.
Rydyn ni’n gwybod efallai na fyddwch yn cofio nac yn deall yn union beth sydd wedi digwydd i chi. Mae hynny’n iawn.
Os bydd tystiolaeth fforensig ddiweddar, efallai y byddwn yn awgrymu eich bod yn mynd i gael archwiliad meddygol fforensig mewn Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC).
Mae tystiolaeth fforensig yn golygu rhywbeth y gallai'r troseddwr fod wedi'i adael ar ôl yn y fan a'r lle neu ar eich corff chi ac a allai ein helpu i brofi beth ddigwyddodd.
Ond chi sy'n rheoli pethau, ac os nad ydych chi am gael archwiliad meddygol fforensig, mae hynny'n iawn.
Rhagor am dystiolaeth fforensig mewn treisio ac ymosodiadau rhywiol
Ar ôl ichi roi’ch disgrifiad inni, bydd swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig yn gweithio ar eich achos. Byddan nhw’n sicrhau’r cymorth a'r gefnogaeth y mae arnoch eu hangen ac yn ymchwilio i'r achos.
Dylai un o'r swyddogion hyn fod yn bwynt cysylltu unigol i chi. Mae hyn yn golygu mai â’r unigolyn hwn y byddwch chi’n siarad pan fyddwch chi’n siarad â ni. Bydd yn esbonio beth sy'n digwydd ar bob cam, yn ateb eich cwestiynau ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Byddwn yn cynnig eich cyfeirio chi at wasanaeth cymorth arbenigol, er enghraifft at Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA). Gall eich cefnogi chi drwy’r broses cyfiawnder troseddol i gyd.
Gallwch gyfeirio’ch hun at wasanaeth cymorth hefyd.
Gwasanaethau cymorth ar gyfer treisio ac ymosodiadau rhywiol
Os gallwn ni adnabod y sawl sydd dan amheuaeth a dod o hyd iddo, efallai y byddwn yn ei arestio. Bydd y penderfyniad yn cael ei seilio ar yr hyn rydych eisiau ei weld ond hefyd ar yr hyn sydd orau i'r cyhoedd yn ein barn ni.
Beth sy’n digwydd mewn ymchwiliad i dreisio neu ymosodiad rhywiol