Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Does dim rhaid ichi aros 24 awr i riportio bod rhywun ar goll. Dyw riportio bod rhywun ar goll ddim yn gwastraffu amser yr heddlu. Rydyn ni yma i'ch diogelu chi a'ch anwyliaid.
Pan fyddwch chi’n rhoi gwybodaeth inni am berson sydd ar goll, fe fyddwn ni:
Bydd ein hystafell reoli yn delio â hyn yn yr un ffordd yn union p'un a fyddwch chi’n riportio ar-lein ynteu'n ein ffonio. Efallai y bydd yn haws ichi ateb y cwestiynau ar-lein wrth eich pwysau.
Mewn rhai achosion, efallai nad ni yw'r gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eich cais. Gallwch ddarllen mwy am y dull Gofal Cywir, Person Cywir.
Riportio bod plentyn gyda phroblemau meddygol ar goll yn y DU
Gallwch chi lenwi’r ffurflen hon ar eich pen eich hun, heb siarad â swyddog heddlu.
Fe allai unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni fod yn ddefnyddiol wrth chwilio. Gorau po fwyaf o fanylion cawn ni, ond peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi’r holl wybodaeth y mae’r ffurflen yn gofyn amdani.
Mae llawer o gwestiynau ar y ffurflen hon. Mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen i gyd ar yr un pryd. Does dim modd i chi gadw eich cynnydd a dod yn ôl rhywbryd eto. Mae gennych chi hyd at ddwy awr i lenwi pob tudalen ar y ffurflen.
Gallwch chi weld rhestr lawn o’r holl gwestiynau yma
Byddwn hefyd yn gofyn i chi lanwytho llun diweddar.
Hyd yn oed os yw’r person wedi mynd ar goll o’r blaen, mae angen i chi roi cymaint o wybodaeth ag y gallwch i ni, gan gynnwys eu manylion sylfaenol. Y rheswm am hyn yw y gallai rhai o’r manylion fod wedi newid ers y tro diwethaf.
Os byddwch yn cofio am rywbeth ar ôl llenwi’r ffurflen hon, gallwch chi roi gwybod i ni am hynny ar-lein yn nes ymlaen.
Os byddwch chi’n riportio ar-lein bod person ar goll, byddwn yn trin eich achos yr un modd yn union â phe byddech chi wedi ffonio 101.
Amser i’w llenwi ar gyfartaledd: 25-30 munud
Cliciwch 'Dechrau' pan fyddwch yn barod.
Dechrau