Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dyma restr o'r holl gwestiynau y gallem eu gofyn ichi pan fyddwch yn riportio bod person ar goll ar-lein.
Mae hyn yn rhoi cyfle ichi gasglu'r holl wybodaeth cyn ichi ddechrau llenwi'r ffurflen. Gorau po fwyaf o fanylion gawn ni, ond peidiwch â phoeni os nad oes gennych yr holl wybodaeth mae'r ffurflen yn gofyn amdani.
Os cofiwch chi rywbeth ar ôl ichi orffen y ffurflen hon, gallwch sôn amdano ar-lein yn nes ymlaen.
Gan ddibynnu ar eich atebion i’r cwestiynau y byddwn ni’n eu gofyn ar y dechrau, efallai na fyddwn yn gofyn pob un o’r cwestiynau hyn i chi. Er enghraifft, fyddwn ni ddim yn gofyn cwestiynau ichi am risgiau i blant os dywedwch chi fod y person sydd ar goll yn 18 oed neu'n hŷn.
Enw
Dyddiad geni
Cyfeiriad ebost
Rhif ffôn
Cyfeiriad
Sut gallwn ni gysylltu â chi?
Oes arnoch chi angen cyfieithydd ar y pryd neu gyfieithydd neu oes gennych chi unrhyw anghenion cyfathrebu eraill?
Enw
Glasenwau neu enwau eraill
Dyddiad geni neu oedran
Rhyw
Statws traws
Ethnigrwydd
Cenedligrwydd
Ieithoedd
Materion cyfathrebu
Eu perthynas â chi
Eu perthynas agosaf
Ysgol, coleg neu brifysgol
Swyddi a chyflogwyr
Ydyn nhw'n gwasanaethu ar hyn o bryd neu ydyn nhw erioed wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydain?
Prif gyfeiriad cartref
Rhif ffôn cartref
Rhif(au) ffôn symudol
Ydych chi'n meddwl bod ganddyn nhw ffôn symudol gyda nhw?
Cyfeiriadau ebost
Cyfeiriadau cyfredol neu flaenorol eraill y gallen nhw fod wedi mynd iddyn nhw
Cyfrifon yn y cyfryngau cymdeithasol
Apiau tracio
Ydyn nhw’n treulio amser gydag unrhyw oedolion a allai fod yn risg iddyn nhw yn eich barn chi?
Oes ganddyn nhw unrhyw arian, rhoddion neu feddiannau eraill heb esboniad?
Ydyn nhw’n derbyn gofal mewn cartref plant, gan ofalwyr maeth neu gan aelodau o'u teulu nad ydyn nhw’n rhieni iddyn nhw?
Oes unrhyw bryderon am ddiogelu'r plentyn?
Taldra
Corffolaeth
Croen
Lliw, hyd a steil gwallt
Gwallt wyneb
Marciau adnabod
Unrhyw beth arall am eu hymddangosiad corfforol y byddai'n ddefnyddiol inni ei wybod
Beth ydych chi wedi'i wneud hyd yn hyn i chwilio amdanyn nhw a chadarnhau eu bod nhw ar goll?
Pa bryder sydd wedi peri ichi riportio bod y person yma ar goll?
Pa fath o berygl, os oes yna berygl o gwbl, ydych chi'n meddwl y gallai'r person fod ynddo?
O ba wlad maen nhw ar goll? (Os ydyn nhw ar goll dros y môr)
Beth oedd y tro diwethaf iddyn nhw gael eu gweld (gennych chi neu unrhyw un arall)?
Pwy oedd y person diwethaf neu'r bobl ddiwethaf i'w gweld?
Unrhyw beth pwysig am y fan lle cawson nhw eu gweld ddiwethaf
Beth ddigwyddodd yn union cyn iddyn nhw fynd ar goll?
Beth roedden nhw’n bwriadu ei wneud y tro diwethaf iddyn nhw gael eu gweld?
Sut hwyliau oedd arnyn nhw neu beth roedden nhw'n ei feddwl y tro diwethaf iddyn nhw gael eu gweld?
Ydych chi'n meddwl eu bod nhw'n debygol o brifo neu niweidio eu hunain?
Ydych chi'n meddwl eu bod nhw mewn perygl o gamfanteisio rhywiol?
Ydych chi'n credu y gallen nhw gael eu gwthio dan bwysau i gyflawni trosedd?
Ydyn nhw'n gallu gofalu amdanyn nhw eu hunain a bod yn ddiogel mewn lle anghyfarwydd?
Ydy hi’n bosibl y gallen nhw fod wedi teithio dros y môr?
Ydy mynd ar goll yn groes i’w cymeriad nhw?
Ydych chi'n meddwl eu bod wedi gwisgo'n addas ar gyfer y tywydd?
Oes ganddyn nhw unrhyw hoff leoedd neu leoedd cyfarwydd y gallen nhw fynd?
Oedden nhw gydag unrhyw un pan aethon nhw ar goll?
Wnaethon nhw bacio bag?
Wnaethon nhw gymryd dillad sbâr?
Wnaethon nhw adael nodyn?
Ydyn nhw wedi bod ar goll o'r blaen?
Soniwch am unrhyw fanylion, pryderon neu risgiau hysbys eraill nad ydyn ni wedi gofyn amdanyn nhw
Beth roedden nhw’n ei wisgo pan aethon nhw ar goll:
Oes ganddyn nhw unrhyw emwaith neu ategolion?
Oes ganddyn nhw
Oes yna ben-blwydd digwyddiadau arwyddocaol wedi bod yn ddiweddar neu ar y gorwel?
Oes unrhyw newidiadau sylweddol wedi bod yn y gwaith, yn yr ysgol, yn y brifysgol neu yn eu bywyd personol?
Oes ganddyn nhw unrhyw drafferthion ariannol?
Oes ganddyn nhw unrhyw broblemau yn eu perthynas â ffrindiau, teulu, partneriaid neu bobl eraill yn eu bywyd?
Oes unrhyw newidiadau wedi bod yn eu hamgylchiadau teuluol yn ddiweddar?
Ydyn nhw wedi dioddef cam-drin oherwydd profiad blaenorol neu eu sefyllfa bresennol, neu ydyn nhw’n debygol o’i ddioddef?
Oes ganddyn nhw unrhyw gredoau neu ddylanwadau crefyddol?
Ydyn nhw’n ymwneud ag unrhyw weithgarwch troseddol?
Allen nhw beri perygl i bobl eraill?
Oes unrhyw warantau arestio, mechnïaeth, gorchmynion iechyd meddwl, gorchmynion gofal ar waith?
Unrhyw faterion neu anghenion meddygol sydd gan y person yma
Oes ganddyn nhw bresgripsiwn am unrhyw feddyginiaeth reolaidd, neu oes angen sylw meddygol arnyn nhw?
Beth sy'n digwydd os na fyddan nhw’n cymryd eu meddyginiaeth, yn cymryd gormod, neu os na chân nhw sylw meddygol neu feddyginiaeth?
Oes ganddyn nhw broblem camddefnyddio sylweddau, er enghraifft problem gydag alcohol neu gyffuriau?
Manylion y meddyg teulu
Unrhyw weithwyr proffesiynol eraill y dylen ni wybod amdanyn nhw, fel seiciatrydd neu therapydd?
Unrhyw un arall y dylen ni siarad â nhw, er enghraifft:
Sut mae'r person yma’n ymwneud â'r person sydd ar goll?
Pam mae'n bwysig ein bod ni’n siarad â nhw?
Uchafswm maint y ffeil y gallwn ei derbyn yw 5MB. Dim ond lluniau llonydd y gallwn eu derbyn, nid fideo.
Pa mor hen yw'r ffotograff rydych chi wedi'i uwchlwytho?