Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae llawer math o ymddygiad gwrthgymdeithasol, o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu sarhaus i aflonyddwch mewn cymdogaeth sy'n cynnwys cyffuriau neu anifeiliaid.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch y peth i ni.
Gall eich cymdogaeth fod yn ardal lle rydych chi’n byw, yn gweithio neu'n ymweld yn aml.
Riportio tân gwyllt yn creu sŵn diangen ac aflonyddwch
Os ydych chi'n profi sŵn niwsans gan gymydog sy'n tanio tân gwyllt yn rheolaidd ar eu heiddo rhwng 7am ac 11pm, riportiwch hyn i'ch cyngor lleol.
Oriau nos y Deyrnas Unedig yw 11pm i 7am. Mae'n anghyfreithlon tanio tân gwyllt yn ystod y cyfnod hwn.
Eithriadau i’r rheol hon yw:
Os ydych chi'n profi un noson unigol, hir o aflonyddwch oherwydd tân gwyllt anghyfreithlon, gallwch riportio hyn i ni.
Gallwch riportio hyn ar-lein. Cliciwch 'Dechrau’ isod i lenwi’n ffurflen ar-lein gyflym a syml. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch.
Byddwch yn barod â’r manylion a ganlyn, os oes modd:
Byddwn yn asesu’ch adroddiad, yn cofnodi'r digwyddiad, ac yn penderfynu ar y ffordd orau o weithredu. Fel arfer, dim ond os bydd arnon ni angen rhagor o fanylion y byddwn yn cysylltu â chi.
Mewn rhai achosion byddwn yn rhoi gwybod i'ch tîm plismona lleol sy'n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Efallai y byddan nhw am gysylltu â chi i drafod ymhellach.
Byddwch yn gallu lawrlwytho copi o'ch adroddiad ar gyfer eich cofnodion eich hun.
Amser cwblhau ar gyfartaledd: pump i 10 munud.
Pan fyddwch chi'n barod, cliciwch 'Dechrau’ i ddechrau.