Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae llawer math o ymddygiad gwrthgymdeithasol, o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu sarhaus i aflonyddwch mewn cymdogaeth sy'n cynnwys cyffuriau neu anifeiliaid.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch y peth i ni.
Gall eich cymdogaeth fod yn ardal lle rydych chi’n byw, yn gweithio neu'n ymweld yn aml.
Riportio tân gwyllt yn cael ei brynu neu ei werthu'n anghyfreithlon
Mae hi’n anghyfreithlon:
Mae gwerthu neu ddefnyddio tân gwyllt yn anghyfreithlon yn cario dirwy o hyd at £5,000 a charchar am hyd at 6 mis. Gall fod dirwy o £90 yn y fan a'r lle hefyd. Mae tân gwyllt i 'Oedolion' yn cynnwys ffyn gwreichion.
I wneud cwyn am weithgarwch gwerthu anghyfreithlon, cysylltwch â'ch swyddfa Safonau Masnach leol.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein cyngor ynghylch defnyddio tân gwyllt yn ddiogel ac yn gyfreithlon.