Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae llawer math o ymddygiad gwrthgymdeithasol, o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu sarhaus i aflonyddwch mewn cymdogaeth sy'n cynnwys cyffuriau neu anifeiliaid.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch y peth i ni.
Gall eich cymdogaeth fod yn ardal lle rydych chi’n byw, yn gweithio neu'n ymweld yn aml.
Riportio rhywun yn defnyddio anifail yn anghyfreithlon
Os ydych chi wedi gweld rhywun yn defnyddio anifail i ymladd, cwrso ysgyfarnogod neu mewn gweithgareddau anghyfreithlon eraill, neu’n amau hynny, gallwch riportio hyn i ni.
Cliciwch 'Dechrau’ isod i lenwi’n ffurflen ar-lein gyflym a syml. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch.
Byddwch yn barod â’r manylion a ganlyn, os oes modd:
Byddwn yn asesu’ch adroddiad, yn cofnodi'r digwyddiad, ac yn penderfynu ar y ffordd orau o weithredu. Fel arfer, dim ond os bydd arnon ni angen rhagor o fanylion y byddwn yn cysylltu â chi.
Mewn rhai achosion byddwn yn rhoi gwybod i'ch tîm plismona lleol sy'n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Efallai y byddan nhw am gysylltu â chi i drafod ymhellach.
Byddwch yn gallu lawrlwytho copi o'ch adroddiad ar gyfer eich cofnodion eich hun.
Amser cwblhau ar gyfartaledd: pump i 10 munud.
Pan fyddwch chi'n barod, cliciwch 'Dechrau' i ddechrau.