Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae llawer math o ymddygiad gwrthgymdeithasol, o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu sarhaus i aflonyddwch mewn cymdogaeth sy'n cynnwys cyffuriau neu anifeiliaid.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch y peth i ni.
Gall eich cymdogaeth fod yn ardal lle rydych chi’n byw, yn gweithio neu'n ymweld yn aml.
Riportio gwybodaeth am gyffuriau
Gallwch riportio hyn i ni ar-lein drwy glicio 'Dechrau’ isod.
Gallwch riportio unrhyw wybodaeth sydd gennych am ddelio cyffuriau, defnyddio cyffuriau, neu unrhyw beth arall yn ddienw Crimestoppers ar 0800 555 111.
Byddwch yn barod â’r manylion a ganlyn, os oes modd:
Byddwn yn asesu’ch adroddiad, yn cofnodi'r digwyddiad, ac yn penderfynu ar y ffordd orau o weithredu. Fel arfer, dim ond os bydd arnon ni angen rhagor o fanylion y byddwn yn cysylltu â chi.
Mewn rhai achosion byddwn yn rhoi gwybod i'ch tîm plismona lleol sy'n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Os bydd angen iddyn nhw gysylltu â chi i helpu gydag ymchwiliad, fe wnân nhw hynny.
Byddwch yn gallu lawrlwytho copi o'ch adroddiad ar gyfer eich cofnodion eich hun.
Amser cwblhau ar gyfartaledd: pump i 10 munud.
Pan fyddwch chi'n barod, cliciwch 'Dechrau' i ddechrau.