Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae llawer math o ymddygiad gwrthgymdeithasol, o ymddygiad ymosodol, swnllyd neu sarhaus i aflonyddwch mewn cymdogaeth sy'n cynnwys cyffuriau, ceir sydd wedi’u gadael neu anifeiliaid.
Os ydych chi wedi bod yn dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, riportiwch y peth i ni.
Gall eich cymdogaeth fod yn ardal lle rydych chi’n byw, yn gweithio neu'n ymweld yn aml.
Riportio galwadau ffôn neu ymweliadau tŷ digroeso
Gall galwadau neu ymweliadau digroeso greu straen a bod yn frawychus weithiau, ond mae yna gamau y gallwch eu cymryd i gadw'n ddiogel a datrys y sefyllfa.
Os ydych chi'n cael galwadau digroeso, rydym yn argymell y dylech chi gysylltu â'ch darparwr gwasanaethau ffôn. Dylen nhw allu awgrymu sawl ffordd o sgrinio a rhwystro galwadau sy'n dod i mewn. Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am alwadau neu ymweliadau annisgwyl.
Os ydych chi'n cael eich aflonyddu ar-lein, darllenwch ein cyngor er mwyn peidio a chael eich targedu mor aml ac atal pobl rhag cael gafael ar eich gwybodaeth.
Os oes rhywun yn aflonyddu arnoch oherwydd pwy ydych chi neu pwy maen nhw’n meddwl ydych chi, bernir bod hyn yn drosedd casineb, a rhaid iddi gael ei riportio. Darllenwch ein cyngor ar droseddau a digwyddiadau casineb, a sut i riportio’r rheiny.
Os ydych chi wedi cymryd y camau uchod ac nad yw'r galwadau neu'r ymweliadau wedi dod i ben, riportiwch hyn i ni.
Gallwch riportio hyn ar-lein drwy glicio 'Dechrau’ isod.
Byddwch yn barod â’r manylion a ganlyn, os oes modd:
Byddwn yn asesu’ch adroddiad, yn cofnodi'r digwyddiad, ac yn penderfynu ar y ffordd orau o weithredu. Fel arfer, dim ond os bydd arnon ni angen rhagor o fanylion y byddwn yn cysylltu â chi.
Mewn rhai achosion byddwn yn rhoi gwybod i'ch tîm plismona lleol sy'n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Efallai y byddan nhw am gysylltu â chi i drafod ymhellach.
Byddwch yn gallu lawrlwytho copi o'ch adroddiad ar gyfer eich cofnodion eich hun.
Amser cwblhau ar gyfartaledd: 5 i 10 munud.
Pan fyddwch chi'n barod, cliciwch 'Dechrau' i ddechrau.